Urddas a Pharch

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’r Senedd wedi ymrwymo i ddarparu diwylliant cynhwysol sy’n rhydd rhag aflonyddu.

Rydym yn disgwyl i’r rhai sy'n gweithio gydag Aelodau o’r Senedd, neu sy'n dod i gysylltiad â hwy, y staff y maent yn eu cyflogi neu gyflogeion Comisiwn y Senedd, gael eu trin ag urddas a pharch.

Ein nod yw sicrhau:

  • bod pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, a'u bod yn cael eu parchu, wrth ymgysylltu â’r Senedd;
  • bod y bobl sy'n gweithio yma yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, a'u bod yn cael eu parchu, yn eu hamgylchedd gwaith;
  • bod diwylliant y Senedd yn un amrywiol a chynhwysol sy'n adlewyrchu pobl Cymru;
  • nad oes lle yn y sefydliad hwn i ymddygiad sy'n effeithio'n andwyol ar urddas pobl eraill;
  • bod cwynion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn deg i bawb y mae'r cwynion yn berthnasol iddynt; 
  • bod opsiynau a gweithdrefnau clir ar waith ar gyfer rhoi gwybod am achosion o dorri amodau'r polisi.

 

Yn dilyn y datganiadau a wnaed gan y Llywydd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac arweinwyr grwpiau'r pleidiau ym mis Tachwedd 2017 a mis Chwefror 2018, cymeradwywyd polisi Urddas a Pharch y Senedd ym mis Mai 2018.

Codi pryderon

Er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i urddas a pharch, rydym yn cydnabod yr angen i unigolion fod yn glir ynghylch yr opsiynau a'r gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am achosion posibl o dorri’r canllawiau, gan fod yn hyderus y bydd unrhyw gŵynion yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn deg i bawb sy'n gysylltiedig.

Os ydych yn teimlo nad ydych wedi cael eich trin ag urddas a pharch, rydym yn eich annog i ddefnyddio'r cymorth sydd ar gael i geisio datrys y mater cyn gynted â phosibl. 

Os nad ydych yn barod i wneud cwyn ar hyn o bryd, ond hoffech drafod eich pryderon, neu os nad ydych yn sicr sut i wneud cwyn, cysylltwch ag un o'n Swyddogion Cyswllt yn gyfrinachol. Mae manylion am rôl ein Swyddogion Cyswllt yn ein dogfen ganllaw Urddas a Pharch, ynghyd â'u manylion cyswllt. Gallwch siarad ag un ohonynt drwy ffonio ein rhif rhadffôn, sef 0300 200 6145.

Rydym yn deall efallai y bydd angen cefnogaeth ar unrhyw un sy'n gwneud cwyn o dan ein gweithdrefnau, neu'r rhai y gwnaed honiadau yn eu herbyn. Rhoddir opsiynau yn y wybodaeth isod. Os ydych yn cysylltu â'n Swyddogion Cyswllt, byddant hefyd yn gallu trafod y rhain â chi.

Efallai yr hoffech ystyried trafod pryderon gyda'ch rheolwr, Aelod o'r Senedd, Swyddog Cyswllt neu gynrychiolydd undeb llafur, fel y bo'n briodol, fel y gallant eich cefnogi i godi eich pryderon, boed yn ffurfiol neu'n anffurfiol.

Cwyno

Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud ag Urddas a Pharch, mae'r wybodaeth isod yn egluro'r opsiynau sydd ar gael i chi, gan ddibynnu ar bwy rydych yn cwyno amdano: