Roedd Alun Ffred
Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2003 ac Ebrill 2016.
Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Cefndir personol
Ganwyd Alun ym Mrynaman
ym 1949 a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei
ethol, roedd Alun yn gyfarwyddwr teledu a chynhyrchydd gyda Ffilmiau'r Nant a
chyn hynny, roedd yn athro Cymraeg, yn Bennaeth Adran ac yn newyddiadurwr gyda
HTV. Mae Alun yn gyn-arweinydd Cyngor Gwynedd
ac yn gyn-gadeirydd cwmni menter cymunedol lleol, Antur Nantlle a Chlwb
Pêl-droed Dyffryn Nantlle. Yn 2008, cafodd ei ddewis i fod yn Weinidog dros
Dreftadaeth yn lle Rhodri Glyn Thomas. Mae’n mwynhau mynd i’r theatr, gwylio
ffilmiau, barddoniaeth, chwaraeon a garddio.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Alun i’r
Cynulliad am y tro cyntaf yn 2003 fel yr Aelod dros Gaernarfon, cyn cael ei
ddewis i gynrychioli etholaeth newydd Arfon yn etholiad 2007. Mae diddordebau
gwleidyddol Alun yn cynnwys darlledu, datblygu cymunedol a’r economi. Ar 22
Gorffennaf 2008 fe’i penodwyd yn Weinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth
Cymru. Ar 20 Hydref 2008, Alun oedd y person cyntaf i ddefnyddio’r Gymraeg fel
cynrychiolydd o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng nghyfarfod yr Undeb Ewropeaidd
ym Mrwsel.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)