Roedd Angela Burns yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol
Cymru rhwng Mai 2007 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Angela wrth ei
bodd yn yr awyr agored ac yn mwynhau marchogaeth, hwylio a cherdded ei chŵn. Mae'n treulio unrhyw amser sbâr sydd ganddi gyda'i theulu.
Hanes personol
Cafodd Angela ei
haddysgu yn Lloegr ac mae'n dod o deulu milwrol a arweiniodd ati'n cael ei magu
mewn nifer o wledydd. Mae'n briod â Stuart ac mae ganddynt ddau o blant ifanc.
Cefndir proffesiynol
Cyn dechrau mewn
gwleidyddiaeth, roedd Angela yn gweithio mewn busnes ar gyfer nifer o gwmnïau
mawr, gan gynnwys Waitrose, Thorn EMI ac Asda. Aeth yn ei blaen i fod yn
gyfarwyddwr cwmni cyn symud i Sir Benfro gyda'i gŵr a'i dwy ferch ifanc.
Hanes gwleidyddol
Cafodd Angela ei
hethol i'r Cynulliad am y tro cyntaf yn 2007 gyda mwyafrif o dan 100. Bu'n
gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Gweinidog yr
Wrthblaid dros Drafnidiaeth a Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid yn y Trydydd
Cynulliad, yn ogystal â chadeirio Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.
Ailetholwyd
Angela gyda mwyafrif cynyddol yn 2011 ac, am gyfnod y Pedwerydd Cynulliad, bu'n
gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg; roedd yn aelod o'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac fe'i penodwyd yn un o Gomisiynwyr y Cynulliad a
oedd yn golygu ei bod yn dirprwyo i'r Llywydd yn y Siambr yn achlysurol.
Ym mis Mai 2016,
cynyddodd mwyafrif Angela unwaith eto yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro ac, ar ôl dychwelyd i'r Cynulliad, cafodd ei phenodi'n aelod o Bwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad. Mae hefyd yn lefarydd y Ceidwadwyr
Cymreig ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofrestr
Buddiannau
Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)