Roedd Ann Jones yn Aelod o
Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei
bywgraffiad pan fu adael.
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Ymhell cyn ei dyddiau ym myd gwleidyddiaeth roedd Ann yn
treulio llawer o'i hamser yn dilyn Clwb Pêl-droed Tref y Rhyl ac mae dal ganddi
docyn tymor ar gyfer Lilywhites.
Hanes
personol
Cafodd Ann Jones ei geni a'i magu yn y Rhyl ar arfordir
gogledd Cymru, ac yno y mae hi wedi byw gydol ei hoes.
Cefndir
proffesiynol
Bu'n gweithio am bron i 30 mlynedd yn yr ystafelloedd
rheoli tân yng Ngogledd Cymru a Glannau Merswy nes iddi gael ei hethol i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999. Cyn cael ei hethol i'r Cynulliad,
gwasanaethodd Ann fel Cynghorydd Tref y Rhyl a hi oedd Maer y dref yn 1996/7.
Roedd hi hefyd yn gynghorydd yn sir Ddinbych.
Hanes
gwleidyddol
Mae'n weithgar gyda'r undebau llafur, ac fe wasanaethodd
Ann fel swyddog cenedlaethol yn Undeb y Brigadau Tân am nifer o flynyddoedd, ac
mae wedi bod yn aelod o Weithrediaeth Plaid Lafur Cymru a Gweithrediaeth TUC
Cymru. Mae hi'n aelod o UNSAIN, a hi sy'n cadeirio grŵp UNSAIN Aelodau'r
Cynulliad. Mae hi hefyd dal yn aelod 'y tu allan i'r maes' o Undeb y Brigadau
Tân.
Wrth hyrwyddo ei chymuned leol, mae Ann Jones wedi
gweithio'n ddiflino gyda Llywodraeth Llafur Cymru ac wedi llwyddo i ddenu
buddsoddiad sylweddol i'r ardal.
Roedd Ann Jones Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol
Cymru dros y Pumed Cynulliad.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF,
307KB)