Roedd Bethan Sayed yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2007
ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Bethan yn mwynhau
nofio a mynd i’r gampfa, yn ogystal â gwylio pêl-droed a rygbi’r gynghrair. Mae
hefyd yn mwynhau cerddoriaeth ac mae'n canu'r fiola.
Mae diddordebau
gwleidyddol Bethan yn cynnwys datblygu economaidd, materion rhyngwladol,
hawliau menywod, materion lloches, diogelu gwasanaethau lleol, a'r ddarpariaeth
ar gyfer anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Cefndir proffesiynol
Mae Bethan yn
gyn-lywydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth ac yn aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Hanes gwleidyddol
Ar ôl cael ei
hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007, bu Bethan yn aelod o'r Pwyllgor
Deisebau, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (y Pwyllgor Archwilio gynt) a'r
Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant. Hi hefyd oedd llefarydd Plaid Cymru ar dlodi
plant a materion diwylliannol.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)