Roedd Carl Sargeant yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol
Cymru rhwng mis Mai 2003 a mis Tachwedd 2017 ac roedd yn cynrychioli Llafur
Cymru. Dyma ei fywgraffiad pan fu farw.
Prif ddiddordebau a
chyflawniadau
Mae'r teulu cyfan yn dilyn pêl-droed ac mae Carl yn
mwynhau gwylio Clwb Pêl-droed Newcastle yn chwarae. Yn lleol, mae'n llywydd
Clwb Pêl-droed Nomads Cei Connah.
Hanes personol
Mae Carl wedi byw yng Nghei Connah yn ei etholaeth
erioed. Mae'n briod â Bernie ac mae ganddynt ddau o blant, Lucy a Jack.
Cefndir proffesiynol
Cyn dod yn Aelod Cynulliad yn 2003, roedd Carl yn
gweithio mewn ffatri gweithgynhyrchu cemegol blaenllaw ac roedd yn archwilydd
ansawdd ac amgylcheddol ac yn ddiffoddwr tân diwydiannol.
Hanes gwleidyddol
Mae Carl yn ymgyrchydd yn erbyn trais domestig. Cafodd
ymrwymiad Carl tuag at gyfiawnder cymdeithasol ei sbarduno ar ôl gweld y
dinistr yn ei gymuned leol yn y 1980au. Daeth y gwaith dur i ben yn Shotton ac
fe gollodd 6,500 o bobl eu swyddi dros nos. Cafodd hyn, yn ogystal â chau'r
felin tecstilau lleol ac effeithiau'r dirwasgiad, effaith andwyol ar y gymuned.
Ar un adeg, roedd dros 30 y cant o ddynion lleol yn ddi-waith.
Yn y cyd-destun hwnnw, bu Carl yn dyst i effaith
niweidiol yfed trwm a thrais domestig ar deuluoedd lleol. Mae'n ymgyrchydd
diflino yn erbyn cam-drin domestig, gan hyrwyddo ymgyrch y Rhuban Gwyn a
chefnogi'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn Shotton.
Mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Tref Cei Connah ac fel
llywodraethwr Coleg Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Bryn Deva.
Yn y Trydydd Cynulliad, daeth Carl yn Brif Chwip y Grŵp Llafur a'i swydd gyntaf yn y Llywodraeth
oedd y Dirprwy Weinidog dros Fusnes y Cynulliad. Ers hynny, mae wedi bod yn
Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, yn Weinidog Llywodraeth
Leol a Chymunedau, yn Weinidog Tai ac Adfywio, yn Weinidog Adnoddau Naturiol ac
yn
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)