Pobl y Senedd

Carolyn Thomas AS

Carolyn Thomas AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Gogledd Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Carolyn Thomas AS

Bywgraffiad

Rwy’n hynod falch a diochgar am gael fy ethol i wasanaethu cymunedau ledied Gogledd Cymru fel eich Aelod o’r Senedd.  Byddaf yn gweithio’n galed I ad-dalu’r ymddiriedaeth rydych chi wedi’i dangos ynof i. Os gallaf wneud unrhyw beth I helpu, mae croes I chi anfon e-bost ataf yn Carolyn.Thomas@Senedd.Cymru

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Fy mhrif ddiddordebau yw'r amgylchedd naturiol, priffyrdd a chludiant, gwastraff ac ailgylchu, plant a phobl ifanc, cyfiawnder cymdeithasol a thegwch.

Hanes personol

Rwy'n briod ac yn fam i dri oedolyn ifanc, yn nain ac yn berchennog ci.   Yn fy amser hamdden byddaf yn mwynhau cerdded yng nghefn gwlad, crwydro o amgylch trefi hanesyddol ac yfed cwrw go iawn.

Cefndir proffesiynol

Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi wrth fagu fy nheulu. Yn fy swydd ddiweddaraf, roeddwn i’n gweithio fel postferch a, chyn hynny, fel clerc swyddfa’r post.  Yn ystod yn fy ugeiniau cynnar, roeddwn i’n byw yn yr Eidal.  Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, rwyf wedi trefnu digwyddiadau yn y gymuned a digwyddiadau i godi arian i elusennau ac wedi cynhyrchu'r cylchlythyrau lleol.

Hanes gwleidyddol

Cyn cael fy ethol yn Aelod o’r Senedd, fi oedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac roeddwn i hefyd yn Aelod  Cabinet dros Wasanaethau Stryd a Chefn Gwlad.  Rwyf wedi bod yn Gynghorydd yng Nghyngor Sir y Fflint ers 2008 ac rwyf hefyd wedi cynrychioli dwy ward fel cynghorydd tref a chymuned, sef Llanfynydd a Threuddyn.  Rwyf wedi bod yn arweinydd grŵp gwleidyddol, yn Gadeirydd Pwyllgor ac yn Arweinydd Dinesig (Cadeirydd / Maer) y Cyngor.  Ymunais â’r blaid Lafur i ymladd yn erbyn mesurau cyni a’u heffaith ar wasanaethau cyhoeddus, ac rwyf hefyd wedi tynnu sylw at effaith ddinistriol credyd cynhwysol ac anghyfiawnder cymdeithasol.

Ymgyrchoedd

Fel Cynghorydd Sir rwyf wedi ymgyrchu dros wasanaethau bysiau cyhoeddus, buddsoddi mewn cyllid priffyrdd, y gwasanaeth cerdd, llefydd chwarae i blant, y blynyddoedd cynnar a’r amgylchedd naturiol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/08/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

;

Digwyddiadau calendr: Carolyn Thomas AS