Roedd Carwyn Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol
Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Hanes personol
Cafodd
Carwyn Jones ei eni yn Abertawe a’i fagu ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan deulu o
siaradwyr Cymraeg. Bu’n ddisgybl yn
Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yna aeth i astudio ym Mhrifysgol
Cymru, Aberystwyth.
Cefndir proffesiynol
Hyfforddodd
Carwyn fel bargyfreithiwr yn Ysgol y Gyfraith, Neuaddau'r Brawdlys Llundain ac
fe'i alwyd i’r Bar yn Gray's Inn ym 1989.
Dechreuodd arfer ei grefft fel bargyfreithiwr a bu mewn practis
cyfreithiol am 10 mlynedd yn Siambrau Gŵyr, Abertawe. Am ddwy flynedd, bu
Carwyn hefyd yn gweithio fel tiwtor proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ar Gwrs
Galwedigaethol y Bar.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd
Carwyn Jones i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Ym mis Chwefror 2000, cafodd ei benodi’n
Ddirprwy Ysgrifennydd dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Thir. Cafodd ei benodi yn
Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ym mis Gorffennaf 2000 ac, ym
mis Chwefror 2002, daeth yn Weinidog dros Lywodraeth Agored, a bu yn swydd
honno tan etholiad 2003.
Ar ôl
yr etholiad hwnnw, daeth yn Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn
Gwlad, gan ddal y swydd honno tan fis Mai 2007. Yn dilyn cyfnod byr fel y
Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, daeth yn Gwnsler Cyffredinol ac
Arweinydd y Tŷ.
Daeth
yn Brif Weinidog ac Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2009.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF,
307KB