Pobl y Senedd

Christine Chapman

Christine Chapman

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Christine Chapman

Bywgraffiad

Roedd Christine Chapman yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Ganwyd Christine Chapman yn y Porth, Rhondda. Mae ganddi radd BA (Anrhydedd) mewn Hanes ac Astudiaethau Clasurol o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, ac MSc Econ ac MPhil o Brifysgol Caerdydd. Mae ganddi ddiploma o Bolytechnig y South Bank, hefyd, mewn Cynghori Gyrfa.

Cefndir proffesiynol

Ym maes addysg y mae cefndir proffesiynol Christine. Mae wedi gweithio i’r gwasanaeth gyrfaoedd ac i ddwy bartneriaeth addysg busnes. Mae hefyd wedi gweithio fel gweithiwr ieuenctid ac athrawes mewn ysgol uwchradd.

Mae Christine yn credu’n gryf mewn dysgu gydol oes, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn datblygu economaidd, cyfle cyfartal, adfywio cymunedol a hanes menywod

Cefndir gwleidyddol

Etholwyd Christine i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys cadeirio Pwyllgor Monitro’r Rhaglen Amcan Un, bod yn Ddirprwy Weinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, a’r Dirprwy Weinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mae Christine hefyd yn cynrychioli Cynulliad Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau, ac mae’n Gadeirydd Grŵp Menywod a Democratiaeth y Cynulliad.

Cyn cael ei hethol yn Aelod Cynulliad Llafur dros Gwm Cynon, roedd Christine yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ymgysylltiadau

Mae Christine yn Ysgrifennydd Grŵp UNSAIN Llafur ac yn aelod o’r Blaid Gydweithredol. Mae hefyd yn cefnogi ymgyrch “Y Gynghrair Does Dim Curo Plant”.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

;

Digwyddiadau calendr: Christine Chapman