Roedd David Melding yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai
1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Ymhlith diddordebau
gwleidyddol David y mae plant sy’n derbyn gofal, iechyd meddwl a materion
cyfansoddiadol.
Mae'n awdurdod
cydnabyddedig ar gyfansoddiad Prydain, ac mae wedi ysgrifennu dau lyfr
dylanwadol: ‘Will Britain Survive Beyond 2020?’ (2009), a ‘The Reformed Union:
The UK as a Federation’ (2013).
Hanes personol
Cafodd David, a
aned yng Nghastell-nedd yn 1962, ei addysg yn Ysgol Gyfun Dwr-y-Felin,
Castell-nedd; Prifysgol Cymru Caerdydd; a Choleg William a Mary yn Virginia,
UDA.
Cefndir proffesiynol
Mae David yn
gyn-reolwr Cymdeithas Genedlaethol y Gofalwyr yng Nghymru ac yn gyn-ddirprwy
gyfarwyddwr y Ganolfan Gymreig ar Faterion Rhyngwladol.
Hanes gwleidyddol
Cafodd David ei
ethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Bu’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ac ar yr Economi a Thrafnidiaeth, a hynny ar ran y Ceidwadwyr
Cymreig. Rhwng 2000 a 2011, David oedd Cyfarwyddwr Polisi'r Ceidwadwyr Cymreig,
ac ysgrifennodd faniffestos y blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2003, 2007
a 2011.
Yn flaenorol,
bu’n cadeirio Pwyllgor Archwilio y Cynulliad; y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol; y Pwyllgor Safonau Ymddygiad; a'r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
David Melding
oedd Dirprwy Lywydd y Pedwerydd Cynulliad.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr Buddiannau –
Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr Buddiannau –
Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)
Cofrestr
Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)