Y Gweinidog Plant a Gofal
Cymdeithasol
Prif ddiddordebau a
chyflawniadau
Prif ddiddordeb Dawn o ran chwaraeon yw pêl-droed. Bu’n gefnogwr tîm ei
thref enedigol, Bristol City, gydol ei hoes ac mae’n dal i deithio i gemau yno
pan fydd amser yn caniatáu. Fodd bynnag,
mae hi hefyd yn ddeiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed Tref Merthyr ac mae ganddi
ddiddordeb brwd yn y rhan fwyaf o chwaraeon lleol yn ei hetholaeth.
Teithio yw yn un arall o ddiddordebau hamdden Dawn, yn enwedig os yw'n
golygu bod yn yr Eidal. Dechreuodd ei hoffter o’r Eidal pan aeth yno ar daith
ysgol a hithau ond yn 12 oed. Treuliodd ei mis mêl yno ac mae wedi treulio
llawer o wyliau mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Ynghyd â hoffter Dawn o’r Eidal mae ei hoffter o fwyd Eidalaidd.
Yn ei hamser hamdden, mae Dawn hefyd yn hoffi darllen, gwrando ar
gerddoriaeth a threulio amser gyda'i theulu sydd wedi’u lledaenu ar draws de
Cymru, gogledd Cymru a gorllewin Lloegr.
Hanes personol
Cafodd Dawn ei geni a'i magu ym Mryste. Mae’n dod o deulu dosbarth
gweithiol traddodiadol ac roedd ei rhieni yn undebwyr llafur ac yn aelodau o'r
Blaid Lafur. Mae ganddi un brawd.
Mynychodd Dawn Ysgol Uwchradd Gatholig y Santes Bernadette ac astudiodd hyd
at lefel TGAU. Ar ôl gadael yr ysgol,
aeth i Goleg Technegol Soundwell lle’r enillodd gymwysterau mewn astudiaethau
busnes, ysgrifenyddol a’r gyfraith. Yn ddiweddarach enillodd gymhwyster Diploma
y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy astudio gyda'r TUC.
Ym 1989, symudodd Dawn i dde Cymru lle y ganwyd, magwyd ac addysgwyd ei dau
fab ac maent yn dal i fyw a gweithio yno. Mae hi wedi bod yn briod â Martin ers
2011.
Cefndir proffesiynol
Swydd gyntaf Dawn ar ôl gadael y coleg oedd fel ysgrifenyddes i Reolwr
Gyfarwyddwr Rhanbarthol Guest Keen and Nettlefold Distributors ym Mryste.
Symudodd oddi yno i weithio fel ysgrifenyddes feddygol yn y GIG cyn treulio
cyfnod byr o amser yn gweithio fel swyddog Llywodraeth Leol. Yn ystod y
blynyddoedd hyn o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus y daeth Dawn i ymwneud yn
weithredol â’i hundeb llafur, NALGO (a ddaeth yn ddiweddarach i fod yn UNSAIN).
A hithau ond yn 23 oed, penodwyd Dawn yn Drefnydd Cangen llawn-amser i
NALGO, gan weithio gydag aelodaeth GIG yr undeb ym Mryste. Ym 1989, symudodd i
dde Cymru i ddod yn Swyddog Ardal benywaidd cyntaf ac ieuengaf yr ardal. Cododd drwy rengoedd ei hundeb i ddod yn
Bennaeth Iechyd UNSAIN Cymru, swydd y bu ynddi hyd at ei hethol yn Aelod
Cynulliad dros Ferthyr Tudful a Rhymni ym mis Mai 2016. Mae hi'n cyfrif arwain
y trafodaethau a gyflwynodd y Cyflog Byw i GIG Cymru yn 2014 ymysg ei
llwyddiannau mwyaf balch.
Yn ei rolau gyda’r undeb, bu Dawn yn eiriolwr, trafodwr, siaradwr cyhoeddus
ac ymgyrchydd dros aelodau a oedd yn gweithio’n bennaf yng ngwasanaethau sector
cyhoeddus Llywodraeth Leol, Iechyd, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, yn ogystal â
chyfleustodau preifat nwy, dŵr
a thrydan a’r sector gwirfoddol. Roedd ganddi hefyd gyfrifoldeb rheoli dros dîm
mawr o drefnwyr UNSAIN a oedd yn cwmpasu canolbarth a de ddwyrain Cymru.
Gweithiodd Dawn gyda nifer o sefydliadau gan gynrychioli ei hundeb, gan
gynnwys Fforwm Partneriaeth GIG Cymru, NJC Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor
Partneriaeth y Gweithlu Llywodraeth Cymru. Byddai’n mynychu ac yn annerch yng
Nghynadleddau TUC Cymru a Phlaid Lafur Cymru fel cynrychiolydd UNSAIN yn
rheolaidd.
Hanes gwleidyddol
Ymunodd Dawn â'r Blaid Lafur ym l983. Mae hi hefyd yn aelod o’r Gymdeithas
Iechyd Sosialaidd ac yn aelod o UNSAIN, undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cafodd ei safbwyntiau gwleidyddol eu llunio gan ei magwraeth a chan ei
rhieni a oedd yn undebwyr llafur ac yn aelodau o'r Blaid Lafur.
Yn ystod streic y glowyr rhwng l984 a 1985, gweithiodd Dawn gyda TUC y De
Orllewin i gasglu arian a bwyd i gefnogi glowyr de Cymru.
Streic y glowyr ac anghydfod diwydiannol eraill yn ystod yr 1980au a’i
gyrrodd i fyd gwleidyddiaeth. Ymunodd â CND ym l984 ac ym mis Ebrill l986
enillodd isetholiad yn ward Staple Hill, a oedd yn ward Geidwadol ar y pryd, i
ddod yn Gynghorydd Llafur ar Gyngor Dosbarth Kingswood a hithau ond yn 26 oed.
Gwasanaethodd Dawn ar bwyllgorau Polisi, Tai, Personél (Cadeirydd Cysgodol),
Iechyd yr Amgylchedd a Chynllunio.
Mae Dawn wedi gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol a enwebwyd gan yr
awdurdod lleol dros Lafur mewn ysgolion uwchradd a chynradd. Bu hefyd yn
Gynghorydd Cymuned Llafur ym Mhontyclun lle'r oedd yn byw cyn ei hethol yn
Aelod Cynulliad ym Merthyr Tudful a Rhymni. Safodd hefyd fel ymgeisydd Llafur
dros ward Pontyclun o Gyngor Rhondda Cynon Taf yn 2004.
Mae Dawn wedi mynychu ac wedi siarad yng nghynadleddau Plaid Lafur Cymru a
chynadleddau Plaid Lafur y DU yn rheolaidd.
Diddordebau gwleidyddol
Yn nhymor diwethaf y Senedd, bu Dawn yn aelod o’r Pwyllgorau Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon; Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol; Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig;
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a Chydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Bu
hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio’r Senedd ac yn cynrychioli Senedd
Cymru yng Nghyngres Rhanbarthau Ewrop ac roedd yn Aelod o Dasglu’r Cymoedd.
Ar ddechrau tymor hwn o’r Senedd, ymunodd Dawn â Llywodraeth Cymru yn
Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ac yn Brif Chwip.