Roedd Edwina Hart
yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd
ei bywgraffiad pan fu adael.
Cefndir personol
Cafodd Edwina
Hart ei geni a’i magu yn Nhre-gŵyr,
Abertawe, lle mae’n byw gyda’i gŵr
a’i merch.
Cefndir proffesiynol
Edwina oedd
Llywydd benywaidd cyntaf BIFU (undeb fancio sydd bellach yn rhan o Unite), ac
aeth ymlaen i gadeirio TUC Cymru. Mae Edwina wedi gwasanaethu fel aelod o
Gyngor Darlledu Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth a
Fforwm Economaidd Gorllewin De Cymru. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol o
‘Chwarae Teg’ - sefydliad sy’n hybu rôl menywod yn y gweithle.
Cafodd Edwina MBE
ym 1998 am wasanaethau i fudiad yr undebau llafur.
Cefndir gwleidyddol
Mae Edwina wedi
bod yn Aelod Cynulliad Gŵyr
ers etholiad cyntaf y Cynulliad ym 1999. Ar ôl gwasanaethu fel Ysgrifennydd
Cyllid cyntaf y Cynulliad, cafodd y swydd ei newid yn 2000 i gynnwys
cyfrifoldeb dros lywodraeth leol, felly daeth yn Weinidog dros Gyllid a
Llywodraeth Leol.
Ar ôl etholiad y
Cynulliad yn 2003, cafodd ei phenodi’n Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac
Adfywio a phenodwyd Edwina yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ym mis Mai 2007. Ar ôl cael ei hailethol ym mis Mai 201, cafodd ei phenodi’n
Weinidog dros Fusnes, Menter a Thechnoleg.
Ei phrif
ddiddordebau gwleidyddol yw cyfle cyfartal a datblygu economaidd.
Ymgysylltiadau
Mae’n aelod o
Community, yr undeb bywyd, ac yn aelod o’r undeb UNITE.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF,
307KB)