Roedd Eluned
Parrott yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Gorffennaf 2011 ac Ebrill
2016. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Mae Eluned
Parrott yn 36 oed ac mae’n byw gyda’i gŵr a dau o blant yn y Rhws ym Mro Morgannwg. Cyn
dod yn Aelod, bu’n gweithio fel Rheolwr Ymgysylltu â'r Gymuned i Brifysgol
Caerdydd, gan arwain tîm sy’n trefnu digwyddiadau addysgol allgymorth a
digwyddiadau cymunedol ar gyfer y cyhoedd.
Mae hi wedi byw yn
rhanbarth Canol De Cymru ers 18 mlynedd: 10 mlynedd yng Nghanol Caerdydd a
Gorllewin Caerdydd, ac wyth mlynedd ym Mro Morgannwg.
Mae gan Eluned
radd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd, ac mae ganddi ddiploma ôl-raddedig
mewn marchnata o’r Sefydliad Marchnata Siartredig. Mae’n mwynhau cerdded,
darllen a chwaraeon.
Bywgraffiad fideo
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr Buddiannau –
Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)