Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Gareth wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sy'n byw yn Nyffryn Clwyd. Mae'n
awyddus i wella mynediad at ofal iechyd ledled yr etholaeth a sicrhau bod
cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae Gareth yn eiriolwr
cryf dros chwaraeon ar lawr gwlad ac mae'n credu bod chwaraeon tîm yn ffordd o
fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yn ogystal â'r argyfwng gordewdra sy’n
wynebu ein cenedl.
Hanes personol
Mae Gareth wedi byw yn Nyffryn Clwyd ar hyd ei oes. Cafodd ei eni a'i fagu
yn Llanelwy, yna symudodd i'r Rhyl, ac mae bellach yn byw ym Mhrestatyn gyda'i
wraig a'u mab ifanc.
Cefndir proffesiynol
Ers dros ddegawd mae Gareth wedi gweithio i'r GIG, lle y byddai’n cefnogi
pobl ag anghenion iechyd meddwl ac anableddau dysgu cyn iddo symud i faes
ffisiotherapi.
Arall
Mae Gareth yn Gynghorydd Sir Ddinbych ac yn Gynghorydd Tref dros ward
De-orllewin Prestatyn.