Roedd Gwenda
Thomas yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016.
Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Cefndir personol
Cafodd Gwenda Thomas
ei geni yng Nghastell-nedd a’i haddysgu yn Ysgol Ramadeg Pontardawe. Mae’n
briod ac mae ganddi un mab. Mae’n gyn-gynghorydd cymuned a chyn-gynghorydd sir.
Cefndir proffesiynol
Arferai Gwenda
fod yn was sifil, wedi gwasanaethu yng nghanghennau Llysoedd Sirol Adran yr
Arglwydd Ganghellor ar y pryd fel Swyddog Gweithredol, ac yna gyda’r Asiantaeth
Fudd-daliadau.
Bu’n cynrychioli
pentref Gwauncaegurwen, lle mae’n byw, fel cynghorydd cymuned a sir am
flynyddoedd lawer. Cafodd ei phenodi’n Gadeirydd Pwyllgorau Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg, a Chyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot ar ôl ailstrwythuro llywodraeth leol, gan ddod y fenyw
gyntaf i gadeirio pwyllgor mawr.
Nes iddi gael ei
phenodi’n Weinidog yn 2007, roedd Gwenda’n Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol
Gynradd Gwauncaegurwen.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Gwenda
i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Yn ystod ei gyfra fel Aelod
Cynulliad, mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Tai, Cadeirydd Pwyllgor
Cyfle Cyfartal y Cynulliad, wedi cadeirio adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed yng
Nghymru ac mae wedi bod yn Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
Mae ei
diddordebau yn cynnwys iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, materion plant,
llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol.
Bywgraffiad fideo
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF,
307KB)