Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae blaenoriaethau gwleidyddol Hannah yn cynnwys gwthio i greu rhagor o swyddi
da, cyfleoedd da a buddsoddiad o’r tu allan i ogledd-ddwyrain Cymru, ochr yn
ochr â sicrhau bod ein cymunedau lleol a’n gwasanaethau yn ffynnu.
Mae diddordebau polisi penodol gan Hannah mewn: cyflogaeth; yr economi;
seilwaith; cydraddoldebau; addysg; pobl ifanc; tai; gofal cymdeithasol ac
iechyd meddwl.
Hanes personol
Mae Hannah yn ymfalchïo ei bod yn dod o’r Gogledd ac o Gei Connah. Aeth hi
i ysgol Sant Richard Gwyn yn y Fflint a bellach mae’n byw yn yr Wyddgrug. Ar ôl
gadael yr ysgol, astudiodd Hannah ym Mhrifysgol De Montfort yng Nghaerlŷr ac ers hynny mae wedi gweithio ledled
Sir y Fflint, Cymru a’r DU.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Mai 2016, roedd
Hannah yn gweithio i undeb llafur Unite am bron i ddegawd. Yn yr ychydig
flynyddoedd diwethaf, bu’n cyflawni gwaith o ran arweiniad polisi a gwaith
gwleidyddol ar gyfer yr Undeb yng Nghymru, gan arwain ar nifer o ymgyrchoedd
llwyddiannus gan gynnwys: gweithredu ar gosbrestru; gwell cyfiawnder i
ddioddefwyr clefydau cysylltiedig ag asbestos; gwarchodaeth i weithwyr gwledig
yng Nghymru; a chyflog byw i weithwyr y GIG yng Nghymru.
Yn y gorffennol, bu Hannah yn gweithio i elusen fach, ac mae hefyd wedi
gweithio i Aelod Seneddol yn Sir y Fflint ac yn y sector lletygarwch yn y sir.
Hanes gwleidyddol
Mae Hannah wedi bod yn weithgar yn y mudiad llafur ac ym maes
gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, ac mae’n
edrych ymlaen at ddatblygu’r cyfraniad hwn fel Aelod Cynulliad. Mae hi’n
gyn-gadeirydd y gangen LGBT Llafur ac roedd yn weithgar yn yr ymgyrch am
briodasau cyfartal.