Pobl y Senedd
Heledd Fychan AS
Aelod Rhanbarthol o’r Senedd
Plaid Cymru
Grŵp Plaid Cymru
Canol De Cymru
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
2 High Street
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 1QJ
Swyddfa
01443 853 214
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7432
E-bost
Heledd.Fychan@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Heledd Fychan AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Prif ddiddordebau Heledd yw diwylliant, hanes a threftadaeth; sicrhau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a diddymu tlodi plant; a sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Hanes personol
Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.
Hanes gwleidyddol
Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Ers cael ei hethol, mae wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
- Aer Glân - Grŵp Trawsbleidiol
- Awtistiaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Bwyd Ysgol - Grŵp Trawsbleidiol
- Celfyddydau ac Iechyd - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Cerddoriaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Cyfeillion Wcráin - Grŵp Trawsbleidiol
- Cymru Rhyngwladol - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Heddwch a Chymod - Grŵp Trawsbleidiol
- Iechyd yr Ysgyfaint - Grŵp Trawsbleidiol
- Menywod - Grŵp Trawsbleidiol
- Plant a Theuluoedd - Grŵp Trawsbleidiol
- Plant yn Ein Gofal - Grŵp Trawsbleidiol
- Prentisiaethau - Grŵp Trawsbleidiol
- Prifysgolion - Grŵp Trawsbleidiol
- Staff Academaidd mewn Prifysgolion - Grŵp Trawsbleidiol
- Tlodi - Grŵp Trawsbleidiol
- Trafnidiaeth Gyhoeddus - Grŵp Trawsbleidiol
- Twristiaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) - Grŵp Trawsbleidiol (Is-Gadeirydd)