Y
Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion
Gwledig
Hanes
personol
Mae Huw yn briod â Joanna
Irranca-Davies (gwnaethant gyfuno eu cyfenwau, sef Davies ac Irranca, ar ôl
priodi). Mae ganddynt dri mab, ac maent i gyd yn falch o'u gwreiddiau teuluol
yng Nghymru a'r Eidal. Magwyd Huw mewn teulu â chysylltiadau cryf â'r Blaid
Lafur ac mae wedi ymgyrchu ar lawr gwlad a gweithredu ym maes adfywio cymunedol
ers tro.
Mae Huw, a aned yn 1963, yn
gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, ac yn gyn-fyfyriwr Coleg Crewe ac Alsager (BA Anrh) ac Athrofa Addysg
Uwch Abertawe (MSc).
Yn gerddwr brwd (fel Is-lywydd
Ramblers Cymru) ac yn ‘seiclwr cyffredin ar feic cefnsyth’, mae hefyd yn
ymlacio drwy wylio ei feibion yn chwarae rygbi neu drwy ddarllen nofelau
hanesyddol (ond byth unrhyw beth gwleidyddol!)
Cefndir
proffesiynol
Cyn ymuno â'r byd gwleidyddol,
gweithiodd Huw Irranca-Davies fel rheolwr yn y sector cyhoeddus a'r sector
preifat, ac fel uwch ddarlithydd ym maes addysg uwch. Mewn is-etholiad seneddol
a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2002, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Blaid
Lafur yn etholaeth Ogwr. Daliodd y sedd honno tan 2016, pan gafodd ei ethol yn
Aelod Cynulliad dros Ogwr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru – sef Senedd Cymru
bellach.
Hanes
gwleidyddol
Cafodd Huw ei ethol yn Aelod
Seneddol Llafur dros Ogwr yn 2002. Mae
wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Weinidogion yn yr Adran
Gwaith a Phensiynau, Gogledd Iwerddon a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol,
Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, fel Chwip y Llywodraeth, fel
Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fel Gweinidog yr Amgylchedd.
O 2010, gwasanaethai fel Gweinidog
yr Wrthblaid dros Ynni, ac yna fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Fwyd, Ffermio a
Materion Gwledig. Ym mis Mai 2015, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor
Archwilio Amgylcheddol. Daliodd y swydd honno tan fis Mai 2016, pan gafodd ei
ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn y Bumed Senedd, ef oedd
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cyn iddo gael ei
benodi’n Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yna, ar gais y Prif
Weinidog, daeth yn Gadeirydd ar Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, y Grŵp Cynghori Ewropeaidd a Phwyllgor
Monitro'r Rhaglen, gan oruchwylio gwariant ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru.
Yn ystod y Chweched Senedd mae wedi
dal swydd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, aelod
o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Cadeirydd y Fforwm
Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, a Chadeirydd y Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Roedd
hefyd yn aelod o nifer o Grwpiau Trawsbleidiol, gan ddal swydd Cadeirydd ac
Is-gadeirydd ar sawl un.
Ym mis Mawrth 2024 penodwyd Huw yn
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn Llywodraeth
Cymru.