Roedd Huw Lewis
yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd
ei fywgraffiad pan fu adael.
Hanes personol
Mae Huw yn briod â
Lynne Neagle (Aelod Cynulliad Llafur a'r Blaid Gydweithredol dros Torfaen) ac
mae ganddynt ddau fab; James a Sam.
Cefndir proffesiynol
Huw oedd
Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Plaid Lafur Cymru cyn iddo gael ei ethol
i'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 1999. Cafodd ei eni ym Merthyr Tudful ym
1964 a'i addysgu ym Mhrifysgol Caeredin a bu’n dysgu cemeg yn ei hen ysgol
uwchradd, Ysgol Uwchradd Afon Taf, Merthyr Tudful.
Hanes gwleidyddol
Ers ei ethol i'r
Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 1999, mae Huw wedi gwasanaethu mewn nifer o
swyddi gweinidogol gan gynnwys: Chwip y
Llywodraeth; Dirprwy Weinidog Addysg; Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
ac Adfywio; Dirprwy Weinidog yr Economi
a Thrafnidiaeth; Dirprwy Weinidog Plant; Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
a Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
Ym mis Mehefin
2013, cafodd Huw ei benodi'n Weinidog
Addysg a Sgiliau gan y Prif Weinidog.
Ymgysylltiadau
Yn wleidyddol,
mae Huw yn aelod o'r Blaid Gydweithredol, y Gymdeithas Fabian ac Undeb Unite.
Ef hefyd yw
llywydd Cymdeithas Bysgota Merthyr Tudful ac mae'n aelod o Undeb Credyd Merthyr
Tudful; Cymdeithas Alzheimer Merthyr a'r Gymdeithas Osteoporosis, Grŵp Cymorth Merthyr Tudful a'r Cylch.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF,
307KB)