Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae James wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i etholaeth
Brycheiniog a Sir Faesyfed ac i Ganolbarth Cymru. Boed drwy gefnogi a datblygu
busnesau, neu drwy sicrhau bod gofal iechyd a gwasanaethau eraill o safon ar
gael yn lleol. Mae hon yn ardal sy’n cael ei hesgeuluso’n aml o ran cyllid a
buddsoddiad ac mae James am dynnu sylw at y cyfleoedd gwych sydd ar gael ym
Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae James yn chwaraewr rygbi brwd ac mae’n falch
o’r cyfnod a dreuliodd fel capten ail dîm Clwb Rygbi Gwernyfed. Mae James yn
mwynhau cadw’n ffit ac yn mynd i’r gampfa’n aml. Mae’n falch iawn o’i gi Daisy
ac yn mwynhau cerdded drwy gefn gwlad godidog yr etholaeth gyda hi.
Hanes personol
Cafodd James ei eni a’i fagu yn etholaeth fendigedig Brycheiniog a Sir
Faesyfed. Cafodd ei fagu ar fferm ei deulu ac mae’n frwd iawn dros yr awyr
agored, amaethyddiaeth a diogelu’r rôl bwysig sydd gan ddiwydiant yn ein
hardal. Yn ei arddegau, treuliodd James gryn amser ar hyd yr etholaeth gyda’r
Ffermwyr Ifanc, yn gwneud ffrindiau, meithrin partneriaethau a datblygu sgiliau
bywyd. Ni wnaeth James ddilyn y llwybr traddodiadol i fyd gwleidyddiaeth, gan
ddewis peidio mynd i’r Brifysgol a dysgu drwy brofiad gwaith yn lle hynny.
Mae’n benderfynol o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r etholaeth.
Hanes gwleidyddol
Yn 2017, cafodd James ei ethol fel Cynghorydd Sir dros ward Gwernyfed ac
yna’n aelod o gabinet Cyngor Sir Powys. Ym mis Mai 2021, cafodd ei ethol yn
Aelod o’r Senedd i gynrychioli ei gartref ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, a dyna
uchafbwynt ei fywyd gwleidyddol. Ar hyn o bryd, James yw Gweinidog Cabinet yr
Wrthblaid ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chanolbarth Cymru, ac mae’n falch iawn o
fod yn gyfrifol am y portffolio hwn.