Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder
Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Jane yn gymrawd anrhydeddus o UWIC ac yn aelod o UNSAIN.
Hanes personol
Treuliodd Jane Hutt ran o'i phlentyndod yn Uganda a Kenya, a chafodd ei
haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Bryste. Mae
hi’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ers 1972.
Roedd ei thaid a’i nain yn siarad Cymraeg ac yn hanu o ogledd Cymru, ac mae
Jane, sydd wedi ymrwymo erioed i weithio dros Gymru, yn dysgu Cymraeg.
Cefndir proffesiynol
Ym 1978, penodwyd Jane yn Gydlynydd Cenedlaethol cyntaf Cymorth i Fenywod
Cymru a hi oedd un o sylfaenwyr Gweithdy Menywod De Morgannwg. Aeth ymlaen i
fod yn gyfarwyddwr cyntaf Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS
Cymru) ac yn dilyn hynny, fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr Chwarae Teg.
Hi yw awdur 'Opening the Town Hall Door – an Introduction to Local
Government’ ac 'A Guide for Women and Employers’.
Hanes gwleidyddol
Roedd Jane yn aelod etholedig o’r hen Gyngor Sir De Morgannwg am 12
mlynedd. Cafodd ei hethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999. Rhwng 1999 a
2005 gwasanaethodd fel y Gweinidog Iechyd Gwasanaethau Cymdeithasol yn
Llywodraeth Cymru. Rhwng 2005 a 2007, hi oedd y Gweinidog dros Fusnes y
Cynulliad a’r Prif Chwip. Yng Nghabinet cyntaf y Trydydd Cynulliad, fe’i
penodwyd yn Weinidog Cyllideb a Busnes y Cynulliad.
Yng Nghabinet y glymblaid, a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2007, fe’i penodwyd
yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ym mis Rhagfyr 2009 fe’i
penodwyd yn Weinidog dros Fusnes a'r Gyllideb ac yna’n Weinidog Cyllid tan 2016
pan gafodd ei phenodi i swydd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ddechrau'r Pumed
Cynulliad.