Pobl y Senedd

Jenny Rathbone AS

Jenny Rathbone AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Canol Caerdydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Jenny Rathbone AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

“Yn y Senedd fy mhrif ddiddordebau yw lles cenedlaethau’r dyfodol yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd, yr argyfwng iechyd cyhoeddus a waethygir gan ein dietau afiach, a’r llygredd aer sy’n gwenwyno ein hysgyfaint. Fy uchelgais yw sicrhau bod y Llywodraeth a'r holl wasanaethau cyhoeddus yn cyflawni systemau bwyd, tai, trafnidiaeth ac ynni cynaliadwy fel y nodir yn glir yn Neddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (2015)."

Hanes personol

Ganwyd Jenny Rathbone yn Lerpwl ac mae ganddi ddau o blant a dau o wyrion. Mae hi'n byw yng nghanol etholaeth Canol Caerdydd, ac mae'r rhan fwyaf o’r etholaeth yn hygyrch ar feic. Cred Jenny y gall pethau da ddigwydd pan fydd cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd a byddai’n fwy na pharod i weithio gydag unrhyw un sydd am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n rhy amlwg ym mhob cymuned.

Cefndir proffesiynol

Gweithiodd Jenny am 20 mlynedd ym maes materion cyfoes ar y teledu, fel ymchwilydd a gohebydd i World in Action gan Granada; fel cynhyrchydd Money Programme y BBC, ac ar Woman's Hour ar Radio 4. Rhwng 2002 a 2007, roedd Jenny yn Rheolwr Rhaglen ar raglen Sure Start yng ngogledd Llundain a sefydlodd ddwy ganolfan blant, gan gynnwys gwasanaeth cyn-geni arloesol cenedlaethol a oedd yn cynnig dosbarthiadau magu plant a chymorth bwydo ar y fron a oedd yn gweithio ochr yn ochr â chlinigau bydwragedd. Mae gan Jenny brofiad sylweddol o weithio gyda meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel cadeirydd Paneli Adolygu Annibynnol ar gyfer y GIG yn Llundain (1996 2003); gwella gofal cychwynnol fel y cynrychiolydd lleyg ar Bwyllgor Gweithredol Proffesiynol Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol Islington (2002-2006), gan gadeirio Partneriaeth Parth Gweithredu Iechyd Camden ac Islington fel prif gynghorydd iechyd ar Gyngor Islington (1998-2002), ac fel aelod o Bwyllgor Cyswllt Mamolaeth Camden ac Islington am bron i 20 mlynedd. Roedd Jenny yn arolygydd lleyg ar gyfer Estyn rhwng 2009 a 2011.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Jenny Rathbone i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2011 ar ôl trechu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sedd Canol Caerdydd. Ym mis Mai 2016, cynyddodd ei mwyafrif dros 2,000 y cant. Dywed Jenny "mae'n hanfodol bod pob plentyn yn cael dechrau teg mewn bywyd. Dyna pam rwyf wedi bod yn llywodraethwr ysgol am dros 20 mlynedd. Mae tai gweddus, cynnes yn hawl i bawb. Rwyf bob amser wedi gweithio gyda chymdeithasau tenantiaid a sefydliadau cymunedol i fynd i'r afael â'r problemau tai, cyffuriau a throsedd sy'n effeithio ar ein bywydau i gyd. Rwy'n gefnogwr angerddol i'r GIG a grëwyd gan Aneurin Bevan fel Gweinidog Iechyd a Thai ar ôl yr ail ryfel byd. Rwy'n aelod o Unite ac yn gefnogwr brwd i'r dull partneriaeth gymdeithasol o gynnwys undebau llafur wrth reoli'r gweithle. Rwy'n Noddwr balch i Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat ac yn ymddiriedolwr Good Food Llanedeyrn.”

Mae Jenny yn aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac o'r blaen mae wedi gwasanaethu fel aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae Jenny yn cadeirio tri Grŵp Trawsbleidiol, sef ar Fwyd, ar Sipsiwn a Theithwyr, a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/06/2011 - 04/05/2016
  2. 05/06/2016 -
  3. 05/08/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

;

Digwyddiadau calendr: Jenny Rathbone AS