Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae ei ddiddordebau’n cynnwys datblygu economaidd a datblygu cymunedol,
ynghyd ag addysg a sgiliau. Mae Jeremy yn byw yng Nghwm Tawe yn etholaeth
Castell-nedd. Mae’n mwynhau ffilmiau, darllen, coginio, heicio, beicio, a dilyn
rygbi.
Hanes personol
Cafodd Jeremy ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais. Fel siaradwr Cymraeg,
cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yn nyffryn Abertawe, a’r Coleg
Newydd yn Rhydychen, lle darllenodd y gyfraith. Yn syth ar ôl graddio, bu
Jeremy'n addysgu'r gyfraith ym Mhrifysgol Warsaw yng Ngwlad Pwyl.
Cefndir proffesiynol
Ar ddechrau ei yrfa, bu Jeremy’n ymarfer fel cyfreithiwr yn Llundain. Yn
dilyn hynny, bu ganddo uwch swyddi cyfreithiol a masnachol mewn busnesau yn
sector y cyfryngau, gan gynnwys ITV a rhwydwaith teledu'r Unol Daleithiau a
stiwdio ffilmiau NBC Universal. Ar ôl dychwelyd i Gymru, sefydlodd ei
ymgynghoriaeth ei hun, yn gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol yn y sector
darlledu a’r sector digidol. Mae Jeremy wedi bod yn ymddiriedolwr ac yn
ysgrifennydd i Sefydliad Bevan, sef elusen cyfiawnder cymdeithasol. Mae ganddo
brofiad hefyd fel mentor ieuenctid ac fel cynghorydd mewn canolfannau sy’n
darparu cyngor cyfreithiol yn ddi-dâl.
Hanes gwleidyddol
Cafodd ei ethol i Senedd Cymru fel yr Aelod dros etholaeth Castell-nedd ym
mis Mai 2016, yn dilyn ymddeoliad Gwenda Thomas AC. Mae Jeremy’n eistedd fel
Aelod o’r Senedd ar ran Llafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol. Cyn ymuno â
Llywodraeth Cymru yn 2017, roedd Jeremy yn aelod o nifer o bwyllgorau seneddol,
gan gynnwys Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau; y Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu; a'r Pwyllgor Materion Allanol. Bu hefyd yn cadeirio grŵp Cydweithredol Aelodau’r Blaid Lafur.
Cafodd Jeremy ei benodi i'r Cabinet fel y Cwnsler Cyffredinol ym mis Tachwedd
2017. Wedi i Mark Drakeford AS gael ei ethol yn Arweinydd Llafur Cymru ac yn
Brif Weinidog ym mis Rhagfyr 2018, parhaodd Jeremy yn rôl hon, ond cafodd ei
benodi i rôl newydd hefyd, sef Gweinidog Brexit. Cyn etholiad y Senedd yn 2021,
bu Jeremy’n gwasanaethu fel y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio
Ewropeaidd, a bu hefyd yn arwain ar y gwaith o gynllunio adferiad Cymru yn
dilyn pandemig Covid-19.