Roedd Jocelyn
Davies yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016.
Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Cefndir personol
Magwyd Jocelyn yn
Nhrecelyn yng Ngwent ac mae ganddi bartner a thri o blant. Derbyniodd ei
haddysg yn Ysgol Ramadeg Trecelyn a Choleg Trydyddol Gwent cyn mynd ymlaen i
astudio’r gyfraith yng Ngholeg Harris-Manchester, Prifysgol Rhydychen.
Cefndir gwleidyddol
Yn ystod y Trydydd Cynulliad, Jocelyn oedd Dirprwy
Weinidog Plaid Cymru dros Dai ac Adfywio.
Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys materion
cyfansoddiadol, anghenion addysgol arbennig a thai.