Pobl y Senedd

Joel James AS

Joel James AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Joel James AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Ymysg diddordebau Joel mae diwylliant, hanes a threftadaeth; cynllunio a llywodraeth leol; cryfhau'r Undeb; ac ymgyrchu dros bobl a chymunedau sy'n aml yn cael eu hanghofio a'u gadael ar ôl.

Hanes personol

Ganed Joel yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg ym Mhentre’r Eglwys ac aeth i Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn Beddau. Astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Bryste, ac mae ganddo radd Meistr mewn Hanes Cymru o Brifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Cyn iddo gael ei ethol, Joel oedd Llyfrgellydd Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd, sef un o'r ysgolion â'r sgôr uchaf yn y Deyrnas Unedig, a bu'n goruchwylio datblygiad eu rhaglen o ddarlithoedd. Mae'n aelod o Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth, a Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.

Hanes gwleidyddol

Yn 2008, Joel oedd y Ceidwadwr cyntaf erioed i’w ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, gan gynrychioli ward ei gartref yn Llanilltud Faerdref. Fe wnaeth sefyll yn etholaethau Cynulliad/ Senedd Pontypridd yn etholiadau Llywodraeth Cymru yn 2011, 2016 a 2021, ac mae'n gynghorydd cymunedol ar Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref. Mae wedi bod yn rhan o fyrdd o ymgyrchoedd gwleidyddol ac yn hynod o falch o’r rhan y gwnaeth chwarae wrth frwydro yn erbyn datblygiadau preswyl ar orlifdiroedd; brwydro dros gytundebau rhydd-ddaliadol teg i berchnogion cartrefi – a sicrhau’r cytundebau hynny – a chyflawni lefelau o fuddsoddiad mewn priffyrdd ar raddfa fawr.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

;

Digwyddiadau calendr: Joel James AS