Roedd Keith
Davies yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2016.
Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Cefndir personol
Cafodd Keith Davies
ei eni yng Ngwauncaegurwen a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd
ymlaen i astudio Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei wraig yn
gweithio i Tinopolis ac mae eu dau fab yn mynd i Ysgol y Strade.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl ennill ei gymhwyster fel athro, bu Keith yn gweithio mewn swyddi uwch mewn ysgolion a cholegau cyn dechrau ar ei yrfa wleidyddol mewn llywodraeth leol, yn gyntaf fel arolygydd ysgolion ac yn y pen draw yn gyfarwyddwr addysg Morgannwg Ganol a Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod
ei gyfnod yn arolygydd, bu’n cynrychioli De Cymru a Gorllewin Lloegr ar
Gymdeithas Genedlaethol yr Arolygwyr a Chynghorwyr Addysgol.
Cefndir gwleidyddol
Bu Keith yn cynrychioli
Ward Hengoed ar Gyngor Sir Caerfyrddin rhwng 2004 a 2008. Ar
hyn o bryd, mae’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ar Bwyllgor
Gweithredol Cymru.
Ymgysylltiadau
Mae Keith yn
Llywodraethwr Ysgol Gymunedol Ffwrnes ac Ysgol Gyfun y Strade. Mae
hefyd yn aelod o’r Blaid Gydweithredol.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)