Ysgrifennydd
y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Yn ei amser rhydd, mae Ken yn mwynhau rhedeg,
nofio, heicio a chyrlio. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn garddio, celf a
dylunio pensaernïol. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyfforddiant
sgiliau, twristiaeth, gwarchod yr amgylchedd, iechyd meddwl, chwaraeon a
ffitrwydd a chynhwysiant cymdeithasol.
Hanes personol
Cafodd Ken Skates ei eni yn 1976 yn Wrecsam.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug, ac aeth ymlaen i astudio Gwyddor
Gymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Cefndir proffesiynol
Roedd Ken yn y gorffennol yn newyddiadurwr gyda
phapur newydd y Wrexham Leader, a BBC Cymru yn Wrecsam. Roedd yn Gynorthwyydd
Personol i Mark Tami AS.
Hanes gwleidyddol
Yn 2008, cafodd ei ethol yn gynghorydd cymuned.
Mae diddordebau polisi Ken yn cynnwys gweithgynhyrchu, iechyd meddwl, chwaraeon
a hamdden, dileu tlodi a'r economi wleidyddol.
Cafodd Ken ei benodi i Lywodraeth Cymru fel y
Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn 2011. Yna cafodd ei benodi'n
Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn 2014 a'i
ddyrchafu'n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ym mis Mai
2016.