Roedd Leanne Wood yn Aelod o
Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2003 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei
bywgraffiad pan fu adael.
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Leanne wedi chwarae rhan fawr ym mudiad yr undebau
llafur a bu’n gadeirydd grŵp trawsbleidiol Undeb y PCS yn y Cynulliad yn y gorffennol. Yn ystod ei chyfnod fel Aelod Cynulliad, bu’n gyfrifol am bortffolios Plaid
Cymru ar gyfer Cynaliadwyedd, yr Amgylchedd, Cyfiawnder Cymdeithasol a
Thai. Ar wahân i wleidyddiaeth, mae ei
diddordebau yn cynnwys dysgu Cymraeg a garddio.
Cysylltiadau eraill:
- Aelod o UNSAIN
- Aelod Cyswllt o Gymdeithas Genedlaethol y Swyddogion
Prawf
- Ymgyrch Cefnogi Palesteina
- Amnest Rhyngwladol
- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
- CAMRA
- Hawliau Erthylu
- Republic
- Cymdeithas Cymru Cuba
- Sefydliad Bevan
Hanes
personol
Ganed Leanne Wood yn y Rhondda, lle y mae’n byw hyd
heddiw. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun
Tonypandy, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd.
Cefndir
proffesiynol
Cyn iddi gael ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn
2003, roedd Leanne yn gweithio fel tiwtor proffesiynol a bu’n darlithio mewn
polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn gweithio fel swyddog
prawf a gweithiwr cymorth gyda Chymorth i Fenywod Cwm Cynon yn 2001 a 2002.
Hanes
gwleidyddol
Mae Leanne wedi creu dwy ddogfen polisi bwysig i Blaid
Cymru. Yn 2008, cyhoeddodd 'Gwneud ein Cymunedau’n fwy Diogel' a oedd yn dadlau
dros ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Yn 2011, cyhoeddwyd 'Cynllun Gwyrdd i’r
Cymoedd', lle’r oedd Leanne yn dadlau o blaid rhaglen creu swyddi gwyrdd er
mwyn adfywio ardaloedd cyn-feysydd glo’r cymoedd.
Ar 15 Mawrth 2012, etholwyd Leanne yn Arweinydd Plaid
Cymru; a hi yw'r ferch gyntaf i arwain y blaid.
Cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda ym mis Mai 2016.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)