Ysgrifennydd y Cabinet dros
Addysg
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Lynne yn ymgyrchu’n frwd dros atal hunanladdiad a dros iechyd meddwl
plant a phobl ifanc. Hi oedd Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn y Bumed Senedd.
Hanes personol
Ganed Lynne Neagle ym Merthyr Tudful ym 1968 a chafodd ei haddysg yn Ysgol
Uwchradd Cyfarthfa cyn mynd i Brifysgol Reading lle astudiodd Ffrangeg ac
Eidaleg. Mae hi’n briod â Huw Lewis, yr Aelod Cynulliad a oedd yn cynrychioli
Merthyr Tudful a Rhymni tan y Bumed Senedd, ac mae ganddi ddau fab.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, ym
1999, bu Lynne yn gweithio mewn nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yng
Nghymru, fel Shelter Cymru, Mind a Chyngor ar Bopeth. Roedd yn Swyddog Datblygu
Gyrfaoedd gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a gweithiodd hefyd fel ymchwilydd
i Glenys Kinnock ASE.
Hanes gwleidyddol
Lynne oedd cadeirydd y Grŵp
Llafur yn y Cynulliad am gryn amser, tan 2008. Mae ei diddordebau gwleidyddol
yn cynnwys iechyd, tai, gwasanaethau cymdeithasol, Ewrop a dyfodol cymoedd y
De. Yn y Bumed Senedd, Lynne oedd cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg.