Roedd Mandy Jones yn Aelod o
Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Rhagfyr 2017 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei
bywgraffiad pan fu adael.
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Mandy yn wniadwraig fedrus a gall wneud, atgyweirio
ac addasu ei dillad ei hun. Mae'n hoff iawn o anifeiliaid ac mae ganddi dri chi
achub - dau gi Rottweiler a chi Catalonian Shepherd a ddaeth gartref o Sbaen;
mae Mandy wrth ei bodd yn gwisgo ei dillad lledr a mynd ar ei Honda CBR 600F o
amgylch tirlun hardd gogledd Cymru.
Hanes
personol
Daw Mandy o Wolverhampton a daeth i ogledd Cymru ym 1986.
Aeth i Goleg Amaethyddol Llysfasi i astudio amaethyddiaeth ac yna hwsmonaeth
anifeiliaid bach. Yma daeth yn fyfyriwr y flwyddyn yn 2000.
Mae gan Mandy bedwar o blant sy'n oedolion ac maent i gyd
yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae bellach yn byw yng nghefn gwlad Corwen.
Cefndir
proffesiynol
Mae Mandy wedi gweithio mewn siop sglodion, becws, ac mae
wedi rhedeg ei busnes micro ei hun yn creu cotiau cynllunydd i gŵn ac yn
gwneud brandio corfforaethol a brandio cwmni. Bu'n fugeiles, yn yrrwr tractor
ac yn ddarllenydd mesurydd ar gyfer G4S.
Hanes
gwleidyddol
Ymunodd Mandy ag UKIP yn 2014, ar ôl iddi gael ei denu
gan ei pholisïau. Roedd yn ymgeisydd ar gyfer De Clwyd yn Etholiad Cyffredinol
2015, ac yn Etholiadau'r Cynulliad yn 2016. Roedd hefyd yn ymgeisydd rhestr ac
yn ymgyrchydd gweithgar ar gyfer y refferendwm ym mis Mehefin 2016. Fe'i dychwelwyd fel Aelod Cynulliad
Rhanbarthol ym mis Rhagfyr 2018 yn sgil ymddiswyddiad Nathan Gill.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF,
3.63MB)