Pobl y Senedd
Mark Isherwood AS
Aelod Rhanbarthol o’r Senedd
Ceidwadwyr Cymreig
Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig
Gogledd Cymru
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
Cymdeithas Ceidwadwyr Delyn
Mold
Treffynnon
CH7 1EG
Swyddfa
01352 710232
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7217
E-bost
Mark.Isherwood@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Mark Isherwood AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Ni ddylech ysgrifennu mwy na 300 gair. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb rhwng eich proffil chi a phroffiliau eich cyd-Aelodau Cynulliad.
Diddordebau Mark y tu allan i wleidyddiaeth yw ei deulu a'i gartref. Mae hefyd yn hwylio llai nag y dylai ac yn hoff o gerdded ei gi.
Mae Mark wedi bod yn gynghorydd cymunedol ar gyfer Treuddyn, yn gyn-lywodraethwr (ac yn gadeirydd) Ysgol Parc y Llan ac yn gyn-aelod bwrdd gwirfoddol o Gymdeithas Tai Venture.
Mae'n Aelod o Fwrdd Rheoli Clwb Awtistiaeth Buddies, yn Is-lywydd Canolfan Adnoddau Anabledd Gogledd Cymru, yn Noddwr o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, yn Llysgennad ar gyfer Geidiau Clwyd, yn Is-lywydd Cymdeithas Chwarae Gogledd Cymru, yn Is-noddwr prosiect hwylio RORO, yn aelod o Lys Prifysgol Glyndŵr, yn Aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Un o noddwyr y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, yn Llywydd y Ganolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol, yn Is-lywydd Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, yn Ymddiriedolwr Families Need Fathers Both Parents Matter Cymru, yn Noddwr o Fforwm Anabledd Sir y Fflint, ac yn Noddwr o Fforwm Polisi Cymru. Mark hefyd oedd sylfaenydd CHANT Cymru (Ysbytai Cymuned yn Gweithredu'n Genedlaethol Gyda'i Gilydd) yn yr ail Gynulliad.
Hanes personol
Mae Mark yn byw yn Sir y Fflint gyda'i wraig. Mae ganddynt chwech o blant ac un ŵyr. Graddiodd Mark mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle, a chymhwysodd fel Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig y Bancwyr. Roedd yn arfer gweithio fel rheolwr ardal ar gyfer cymdeithas adeiladu yn y Gogledd.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Mark i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2003, cyn cael ei ail-ethol yn 2007, 2011 a 2016. Yn yr Ail a'r Trydydd Cynulliad, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyllid, addysg, cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thai. Hefyd, roedd yn aelod o nifer o Bwyllgorau'r Cynulliad a chadeiriodd Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad. Hefyd cadeiriodd Grwpiau Trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, niwrowyddorau ac angladdau a phrofedigaeth. Yn y Pedwerydd Cynulliad, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig dros Gymunedau, Tai, Plismona a Gogledd Cymru, yn ogystal ag eistedd ar Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a Phwyllgor Safonau'r Cynulliad. Cadeiriodd Grwpiau Trawsbleidiol ar awtistiaeth, cyflyrau niwrolegol, tlodi tanwydd, hosbisau a gofal lliniarol ac angladdau a phrofedigaeth, a chyd-gadeiriodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd.
Yn y Bumed Senedd, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig dros Gymunedau, Ewrop a Gogledd Cymru, yna Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a Thai, ac yn olaf, Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid a’r Prif Chwip. Hefyd, roedd yn Gadeirydd ar Grwpiau Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Awtistiaeth, Anabledd, Cyflyrau Niwrolegol, ac Angladdau a Phrofedigaeth.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 05/02/2003 - 05/02/2007
- 05/04/2007 -
- 05/06/2011 - 04/05/2016
- 05/06/2016 -
- 05/08/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
- Adeiladu - Grŵp Trawsbleidiol
- Anabledd - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Anabledd Dysgu - Grŵp Trawsbleidiol
- Angladdau a Phrofedigaeth - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Anhwylderau Bwyta - Grŵp Trawsbleidiol
- Awtistiaeth - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Bioamrywiaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Canser - Grŵp Trawsbleidiol
- Clefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis - Grŵp Trawsbleidiol
- Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol - Grŵp Trawsbleidiol
- Cyflyrau prin, genetig a heb ddiagnosis - Grŵp Trawsbleidiol
- Dementia - Grŵp Trawsbleidiol
- Diabetes - Grŵp Trawsbleidiol
- Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Gogledd Cymru - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Hawliau Defnyddwyr - Grŵp Trawsbleidiol
- Hemoffilia a Gwaed wedi'i Heintio - Grŵp Trawsbleidiol
- Iechyd yr Ysgyfaint - Grŵp Trawsbleidiol
- Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid - Grŵp Trawsbleidiol
- Masnachu mewn pobl yng Nghymru - Grŵp Trawsbleidiol
- Materion Pobl Fyddar - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol - Grŵp Trawsbleidiol
- Plant a Theuluoedd - Grŵp Trawsbleidiol
- Plant yn Ein Gofal - Grŵp Trawsbleidiol
- Plismona - Grŵp Trawsbleidiol
- Saethu a Chadwraeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Siopau Bach - Grŵp Trawsbleidiol
- Sipsiwn a Theithwyr - Grŵp Trawsbleidiol
- STEMM - Grŵp Trawsbleidiol
- Strôc - Grŵp Trawsbleidiol
- Tai - Grŵp Trawsbleidiol
- Tlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)
- Trais yn Erbyn Menywod a Phlant - Grŵp Trawsbleidiol
- Twristiaeth - Grŵp Trawsbleidiol
Etholiadau
- Etholiad Senedd (Etholaeth) 2021, 06/05/2021
- Etholiad Senedd (Rhanbarthol) 2021, 06/05/2021
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Rhanbarthol) 2016, 06/05/2016
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Rhanbarthol) 2011, 05/05/2011
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Rhanbarthol) 2007, 03/05/2007
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2003, 01/05/2003
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Rhanbarthol) 2003, 01/05/2003