Roedd Mark Reckless yn Aelod o
Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei
fywgraffiad pan fu adael.
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Mark Reckless wedi ymgyrchu ar hyd ei fywyd fel
oedolyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ym mis Hydref 2012, trechodd Marc lywodraeth glymblaid y
DU am y tro cyntaf mewn pleidlais seneddol, gyda chynnig yn gofyn am ostyngiad
mewn termau real yng nghyllideb yr UE. Cyflawnwyd hyn, gan arbed biliynau o
bunnoedd i drethdalwyr y DU, ac o fewn tri mis cytunodd y Prif Weinidog i
gynnal refferendwm ar aelodaeth o'r UE.
Yn nhymor yr hydref 2014, gadawodd Mark y Blaid Geidwadol
ac ymunodd ag UKIP. Ymddiswyddodd o'i sedd yn Senedd y DU i geisio cefnogaeth
ei etholwyr, a chafodd ei ail-ethol mewn is-etholiad.
Hanes
personol
Ganed Mark ar 6 Rhagfyr 1970, yn fab hynaf i John ac Anne
Reckless, meddyg a nyrs. Bu ei dad-cu, Henry McDevitt, yn gwasanaethu fel aelod
Fianna Fail yn Senedd Iwerddon, gan gynrychioli Dwyrain Donegal rhwng 1938 ac
1943.
Mae gan Mark radd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac
Economeg o Brifysgol Rhydychen, gradd mewn Busnes o Brifysgol Columbia, a gradd
yn y Gyfraith o Goleg y Gyfraith. Mae'n briod â Catriona ac mae ganddo ddau fab
ifanc.
Cefndir
proffesiynol
Cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth, bu Mark yn gweithio fel
economegydd y DU ar gyfer y banc buddsoddi S.G. Warburg (sydd bellach yn rhan o
UBS). Cafodd ei gynnwys yn y tri uchaf gan gleientiaid yn arolygon Extel ac
Institutional Investor. Yn ddiweddarach, bu Mark yn gweithio fel ymgynghorydd
rheoli. Cafodd ei alw i'r Bar yn 2007. Yn 2009, enillodd gymhwyster fel
cyfreithiwr gyda Herbert Smith LLP, ar ôl treulio amser fel Cynorthwy-ydd Barnwrol
i Is-lywydd y Llys Apêl.
Hanes
gwleidyddol
Ar ôl sefyll ar gyfer etholaeth Medway yn 2001 a 2005,
cafodd Mark ei ethol fel yr AS Ceidwadol dros Rochester a Strood yn 2010. Bu’n
gwasanaethu hefyd fel cynghorydd ar gyfer Medway ac fel aelod o Awdurdod Heddlu
Swydd Gaint.
Etholwyd Mark i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai
2016. Ym mis Ebrill 2017, gadawodd Mark UKIP ac ymuno â grŵp y Ceidwadwyr
yn y Cynulliad. Ym mis Mai 2019, gadawodd Mark grŵp y Ceidwadwyr yn y
Cynulliad.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF,
3.63MB)