Roedd Mohammad Asghar (Oscar) yn Aelod o’r Senedd rhwng mis Mai 2016 a
mis Mehefin 2020. Dyma ei fywgraffiad pan fu farw.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Oscar yn
cymryd diddordeb a balchder mawr mewn hyrwyddo menter a busnes ar lefel lleol,
cenedlaethol a rhyngwladol. O ganlyniad, mae wrth ei fodd yn cael cymryd rhan
yn y CPA (Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad), lle y mae wedi datblygu
cysylltiadau cryf â gwledydd amrywiol ledled y Gymanwlad er mwyn cryfhau’r
cysylltiadau rhyngwladol â Chymru.
Mae Oscar yn
credu mewn integreiddiad ymhlith pob cymuned a ffydd. Bu’n gyfrwng i chwalu
rhwystrau rhwng gwahanol gymunedau a ffydd.
Ymhlith ei
ddiddordebau y tu allan i’r maes gwleidyddol mae criced, athletau a badminton.
Mae ganddo hefyd drwydded peilot ac mae’n Gyfrifydd proffesiynol.
Hanes personol
Cafodd ei eni yn
Peshawar ym Mhakistan, ac enillodd Oscar radd BA mewn Gwyddor Wleidyddol o
Brifysgol Peshawar. Symudodd i Lundain a chwblhau MBA cyn symud i Gymru i
ddilyn cwrs mewn cyfrifeg yng Nghasnewydd. Mae’n siarad Urdu, Hindi a Punjabi’n
rhugl.
Mae’n briod â
Firdaus, sy’n feddyg, a’r Faeres Fwslimaidd gyntaf yn y DU. Mae ganddynt ferch
o’r enw Natasha.
Mae Oscar yn hoff
iawn o chwaraeon, ac mae bob amser wedi annog pawb o bob oedran i gymryd rhan
mewn chwaraeon. Fel un a redodd gyda’r ffagl Olympaidd ym 1964, mae wrth ei
fodd pan fydd digwyddiadau chwaraeon yn uno’r wlad, drwy rygbi, pêl-droed,
athletau a chriced, ac mae bob amser wedi ymgyrchu dros gael ei thîm criced ei
hun i Gymru.
Cefndir proffesiynol
Dechreuodd Oscar
ei yrfa yn gweithio i gwmni o gyfrifwyr siartredig yng Nghasnewydd. Wedyn,
daeth yn bennaeth ei gwmni cyfrifwyr ei hun a chafodd amryw o swyddi Cyfarwyddwr
mewn busnesau eraill cyn iddo fynd i faes gwleidyddiaeth.
Mae hefyd yn
beilot cymwys.
Hanes gwleidyddol
Daeth Oscar yn
gynghorydd Mwslimaidd cyntaf Cymru, yn cynrychioli ward Victoria ar Gyngor
Dinas Casnewydd yn 2004. Daeth i amlygrwydd wedi iddo gael ei ethol i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru yn 2007, ac eto yn 2011 a 2016. Mae’n adnabyddus fel yr
Aelod Cynulliad Mwslimaidd cyntaf a’r cyntaf o blith y lleiafrifoedd ethnig ac
mae’n hynod falch o’i gefndir a’i hanes.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad
(PDF, 739KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)