Peter Fox yw
Aelod o’r Senedd dros Fynwy a Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr
Cymreig dros Gyllid. Fel Arweinydd Cyngor Sir Fynwy am 13 blynedd chwaraeodd ran
allweddol o ran trafod a sicrhau bargen ddinesig fwyaf y DU - gwerth £1.3
biliwn – ar gyfer Prifddinas Ranbarth Caerdydd. Dyfarnwyd OBE iddo am hyn
wedyn. Mae Mr Fox hefyd yn ffermwr da byw yn Sir Fynwy.