Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi,
Ynni a Chynllunio
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Cafodd Rebecca ei hethol gyntaf i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a
Gorllewin Cymru. Yn 2016, daeth yn Aelod Cynulliad dros etholaeth Gŵyr.
Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei
phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 fe’i penodwyd yn
Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus. Ym mis Tachwedd 2017,
cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 fe ymunodd
â’r Cabinet fel y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Ar 13 Mai 2021 cafodd Rebecca
ei phenodi’n Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Hanes personol
Cafodd Rebecca ei haddysgu ym Mhrifysgol
Leeds, lle astudiodd Hanes. Cafodd radd Meistr mewn Athroniaeth mewn
Astudiaethau Hanesyddol o Brifysgol Caergrawnt hefyd.
Mae Rebecca yn byw yng Ngŵr gyda’i gŵr.
Cefndir proffesiynol
Cyn dod yn Aelod Cynlluniad, roedd Rebecca
yn gweithio yn y trydydd sector.
Hanes gwleidyddol
Yn y Pedwerydd Cynulliad, penodwyd Rebecca
i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Phwyllgor yr Amgylchedd a
Chynaliadwyedd a’i Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin. Bu’n gwasanaethu hefyd ar y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Hefyd, yn y Pedwerydd Cynulliad, Rebecca
oedd Cadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Anabledd, Iechyd Meddwl, a Nyrsio a
Bydwreigiaeth; ac roedd yn is-gadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Ffydd,
Awtistiaeth, a Chwrw a’r Dafarn. Roedd yn swyddog yn sawl Grŵp Trawsbleidiol arall, gan gynnwys
Cyflyrau Niwrolegol, a Phobl Hŷn.