Roedd Rhodri Glyn
Thomas yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016.
Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Cefndir personol
Ganed Rhodri yn Wrecsam
ym 1953. Aeth i Brifysgolion Cymru, Aberystwyth, Bangor a Llanbedr Pont
Steffan. Mae’n weinidog yr Efengyl a hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni. Mae hefyd
yn rhugl yn y Gymraeg.
Cefndir gwleidyddol
Etholwyd Rhodri
i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol
yn cynnwys amaeth a’r economi wledig, Ewrop, a materion cymdeithasol a
thrafnidiaeth. Pan benderfynwyd ar lywodraeth glymbleidiol rhwng Llafur a
Phlaid Cymru ym mis Gorffennaf 2007, penodwyd Rhodri yn Weinidog dros
Dreftadaeth, ond ymddiswyddodd o’r swydd yn 2008. Yn dilyn ei ymddeoliad o’r
swydd honno, aeth ymlaen i fod yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig, yn
aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, a’r Pwyllgor Cynaliadwyedd.
Ymgysylltiadau
Bu Rhodri yn
Gadeirydd CND Cymru, yn llefarydd Cymru dros Fusnesau Preifat ac yn Gadeirydd
Pwyllgor Cyswllt Canolbarth a De Cymru
NSPCC Cymru. Mae Rhodri hefyd wedi bod yn Gadeirydd ar lywodraethwyr ysgol
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)
Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF,
362KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF,
307KB)