Pobl y Senedd
Russell George AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Ceidwadwyr Cymreig
Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig
Sir Drefaldwyn
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
13 Parker's Lane
Y Drenewydd
SY16 2LT
Swyddfa
01686 610 887
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7206
E-bost
Russell.George@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Russell George AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Blaenoriaethau cyfredol Russell yw cadw a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol i bobl Sir Drefaldwyn. Mae Russell hefyd yn teimlo'n angerddol am annog pobl iau i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ac mae'n awyddus i gefnogi ac annog busnesau newydd a thwf busnesau bach. Roedd Russell yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o hyrwyddo ffordd osgoi'r Drenewydd ac mae'n ymgyrchu dros wella band eang yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae hefyd wedi gwrthwynebu'n gryf ddatblygiad tyrbinau gwynt ar y tir ledled canolbarth Cymru. Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys cadw'n iach. Ef yw Llywydd Cyngor Sgowtiaid Ardal Sir Drefaldwyn a Dirprwy Lywydd Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor Sir Drefaldwyn. Mae hefyd yn aelod o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, ac yn aelod o Hope Church yn y Drenewydd; felly mae wedi bod yn rhan o lawer o brosiectau sy'n cefnogi'r gymuned.
Hanes personol
Ganed Russell yn y Trallwng ym 1974 a chafodd ei fagu yn Sir Drefaldwyn ac yno yr aeth i’r ysgol. Mae ganddo radd mewn Astudiaethau Gwybodaeth a’r Cyfryngau o Brifysgol Canolbarth Lloegr.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei ethol i'r Senedd, roedd Russell yn gynghorydd tref, yn llywodraethwr ysgol, yn aelod o Fwrdd Coleg Powys, ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Theatr Hafren.
Hanes gwleidyddol
Russell George yw’r Aelod o Senedd Cymru dros Sir Drefaldwyn ac mae wedi cynrychioli’r etholaeth er 2011. Russell yw Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd, ac mae ei rôl fel llefarydd ar ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am Ganolbarth Cymru. Mae wedi cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Senedd Cymru ers 2016. Etholwyd Russell i Gyngor Sir Powys yn 2008 ac roedd yn aelod o fwrdd rheoli gweithredol y Cyngor rhwng 2008 a 2011. Pan etholwyd ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, fe’i penodwyd yn Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy cyn dod yn Weinidog yr Wrthblaid dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig rhwng 2014 a 2016. Ym mis Mai 2016, etholwyd Russell i'r Cynulliad gyda mwyafrif cynyddol. Rhwng 2013 a 2016, sefydlodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol ac ef oedd cadeirydd y Grŵp hwn a oedd yn ymgyrchu dros welliannau o ran y graddau yr oedd band eang cyflym iawn a signal ffonau symudol ar gael yng Nghymru ac, yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roedd yn aelod gweithgar o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Phwyllgor Deisebau y Cynulliad.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 05/06/2011 - 04/05/2016
- 05/06/2016 -
- 05/08/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
- Angladdau a Phrofedigaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Clefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis - Grŵp Trawsbleidiol
- Cyflyrau prin, genetig a heb ddiagnosis - Grŵp Trawsbleidiol
- Nyrsio a Bydwreigiaeth - Grŵp Trawsbleidiol
- Siopau Bach - Grŵp Trawsbleidiol
- Twf Gwledig - Grŵp Trawsbleidiol
- Ymchwil Meddygol - Grŵp Trawsbleidiol (Cadeirydd)