Hanes personol
Ganed Sam ym Mangor a chafodd ei fagu ym Mhenygroes, ger Caernarfon, cyn
symud i Abergele pan oedd yn naw oed. Aeth i Ysgol Eirias ym Mae Colwyn.
Gweithiodd Sam i HSBC rhwng 2009 a 2019 fel rheolwr risg credyd ac yn y swydd
hon, cafodd brofiad rhyngwladol. Mae ganddo radd mewn rheoli busnes. Priododd
Natasha yn 2008 ac mae ganddynt dair o ferched.
Hanes gwleidyddol
Cafodd Sam ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref
Abergele am y tro cyntaf yn 2008. Sam oedd Maer ieuengaf Abergele ac roedd yn y
swydd honno rhwng 2015 a 2016. Yn 2017, cafodd ei benodi’n Aelod o Gabinet
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dros Gyllid ac Adnoddau cyn cael ei ethol yn
Arweinydd y Cyngor yn 2019. Ymgeisiodd am sedd etholaeth Dyffryn Clwyd yn
etholiadau’r Senedd yn 2016 , cyn cael ei ethol i gynrychioli rhanbarth y
Gogledd yn 2021. Ar ôl cael ei ethol i’r Senedd, penodwyd Sam yn llefarydd y
Blaid Geidwadol dros lywodraeth leol yng Nghymru.