Y Gweinidog Iechyd Meddwl
a Llesiant
Prif ddiddordebau a
chyflawniadau
Mae Sarah yn ymroddedig i hawliau digidol a democratiaeth, a datblygu
polisïau amgylcheddol ar gyfer Cymru wyrddach.
Cyn cael ei hethol, roedd Sarah yn Gadeirydd Cymru Gynaliadwy, elusen ym
Mhorthcawl sy'n cefnogi datblygiad cynaliadwy yn y gymuned. Yn 2020, creodd y
gyfres weminar “Circular Economy: A Design For Life" yr aeth arbenigwyr
blaenllaw o bob rhan o Gymru a'r DU iddi. Ym mis Mawrth 2020, sefydlodd Murphy
Grŵp Cymorth
Coronafeirws Pen-y-bont ar Ogwr sydd ag oddeutu 12,000 o aelodau ac sydd wedi
codi arian ar gyfer Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr a Splice Child and Family yn y
Pîl.
Hanes personol
Mae Murphy yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'i phartner.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl graddio, symudodd Sarah i Seoul, De Corea i addysgu Saesneg. Mae wedi
gweithio yn Llundain i gwmni datblygu eiddo byd-eang. Yn 2016, graddiodd o'r
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd gyda
Rhagoriaeth MA mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas. Dyfarnwyd ysgoloriaeth i
Sarah gan Brifysgol Caerdydd a grant gan Leathersellers’ Company Charitable
Fund i ymgymryd â’i hefrydiau. Rhwng
2019 a 2021, bu Sarah yn canolbwyntio ar ei hymchwil lles cymdeithasol a data
mawr, yn bennaf ar gyfer y Labordy Cyfiawnder Data ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'n ymchwilio i ddefnydd llywodraethau'r DU a rhyngwladol o ddata mawr a dull
dylunio algorithmig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus – gyda ffocws ar nodi
drygau data posibl a gwahaniaethu yn erbyn plant a theuluoedd. Ymchwiliodd ei
phrosiect ymchwil diweddaraf i wyliadwriaeth yn y gweithle sy’n seiliedig ar
ddata.
Hanes gwleidyddol
Sarah Murphy oedd Pennaeth Digwyddiadau Llafur Cymru rhwng 2009 a
2012. Yn 2017, fel Dadansoddwr Ymchwil
Lee Waters AC, datblygodd a gweithredodd y llwyfan cyfrannu torfol ar-lein,
ffynhonnell agored cyntaf ar gyfer Aelod Cynulliad yng Nghymru. Yn dilyn
Etholiad Cyffredinol 2017, cafodd ei phenodi’n Uwch-reolwr Cyfathrebu i Anna
McMorrin AS, ac yna’n Uwch-gynghorydd i Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol
Cymru. Etholwyd Sarah yn Aelod o’r
Senedd Llafur Cymru dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad 2021 gyda
mwyafrif o 4,064. Hi yw'r unig fenyw i ennill sedd yn ystod yr etholiad hwn a
ddaliwyd yn flaenorol gan ddyn, gan gymryd lle cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones a
benderfynodd beidio â sefyll ailetholiad.