Roedd Simon
Thomas AC yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2011 a Gorffennaf
2018. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae diddordebau gwleidyddol
Simon yn cynnwys: yr amgylchedd; bwyd a materion gwledig; trafnidiaeth;
datblygu rhyngwladol; ynni; a diwylliant, cyfryngau a chwaraeon.
Hanes personol
Mae Simon Thomas
yn byw yn Aberystwyth gyda’i wraig; mae ganddynt ddau o blant.
Cefndir proffesiynol
Bu Simon yn
gweithio fel llyfrgellydd cyn dod yn ymchwilydd i Gyngor Bwrdeistref
Taf-Elái. Bu hefyd yn weithiwr
gwrthdlodi a Rheolwr Datblygu Gwledig i gwmni Jigso.
Hanes gwleidyddol
Cafodd Simon ei
ethol i Dŷ’r Cyffredin fel yr Aelod Seneddol dros Geredigion yn 2000 a 2001, gan ddod
yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol.
Ar ôl colli ei
sedd, daeth yn rheolwr datblygu gyda Technium yn sir Benfro. Yna, daeth yn
uwch-gynghorwr arbennig i Lywodraeth Cymru, yn cynghori’r Dirprwy Brif Weinidog
a Gweinidogion eraill ym Mhlaid Cymru.
Cafodd ei ethol i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011 ac eto yn 2016.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)