Hanes personol
Magwyd Sioned Williams yng nghymoedd Gwent ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol
Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae hi'n byw yn yr Alltwen, yng
Nghwm Tawe gyda'i gŵr
Daniel a'u dau blentyn sydd yn eu harddegau. Mae Sioned yn rhugl yn y Gymraeg.
Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd iddi
Ysgoloriaeth T.Glynne Davies S4C i astudio ar gyfer diploma ôl-raddedig mewn
Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cefndir proffesiynol
Roedd Sioned yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol
Abertawe fel Swyddog Polisi Iaith ac yna fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn
Academi Hywel Teifi. Fel rhan o’i gwaith yn y Brifysgol, bu’n helpu i sefydlu a
chyd-reoli Tŷ’r
Gwrhyd, canolfan iaith Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae hi hefyd wedi gweithio i
Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Mae Sioned yn adolygydd a
sylwebydd adnabyddus ar ddarlledu a'r celfyddydau ac mae wedi beirniadu Gwobr
Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y Goron yn
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae hi'n gyn-aelod o Fwrdd a chyn-Gadeirydd
Panel Bwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru.
Hanes gwleidyddol
Roedd Sioned yn Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor
Cymuned Cilybebyll cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De
Cymru yn Etholiad 2021.