Roedd Suzy Davies yn Aelod o Gynulliad
Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan
fu adael.
Hanes personol
Mae Suzy yn briod ac mae ganddi ddau fab.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl gyrfa ym myd marchnata a rheoli yn y celfyddydau, cymhwysodd Suzy fel
cyfreithiwr, gan weithio mewn nifer o feysydd o deuluoedd sy’n agored i niwed i
gynllunio treth.
Mae wedi hyfforddi fel mentor i weithio gyda throseddwyr ifanc ac wedi
mentora gyda Prime Cymru. Bu Suzy hefyd yn ymddiriedolwraig i nifer o
brosiectau plant. Bu’n cynnal Clwb Swyddi ac yn gwirfoddoli gyda grwpiau
cymorth cymunedol, gan gynnwys Cyfeillion a Theuluoedd Carcharorion yng
ngharchar Abertawe. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o gyhoeddiadau ac roedd
yn un o sylfaenwyr Gŵyl
Ffilmiau Ryngwladol Cymru.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)