Pobl y Senedd

Tom Giffard AS

Tom Giffard AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gorllewin De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Tom Giffard AS

Bywgraffiad

Mae gan Tom swyddfa hefyd yn:

80 High Street,

Gorseinon

SA4 4BL

Prif ddiddordebau

Mae blaenoriaethau Tom yn cynnwys cryfhau cynnig Cymru ym maes twristiaeth, hyrwyddo diwylliant Cymru a chefnogi chwaraeon ar lawr gwlad.

Mae gan Tom ddiddordeb brwd ym myd addysg, yn sgil y ffaith ei fod wedi gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg. Mae ganddo ddiddordeb mawr hefyd yn strwythurau a datblygiadau ym maes llywodraeth leol, a bu’n arwain Grŵp y Ceidwadwyr yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr am 4 blynedd.

Hanes personol

Magwyd Tom ym Mhenllergaer, Abertawe, ac yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, gan fod ei rieni wedi gwahanu. Graddiodd Tom o Brifysgol Abertawe gyda chymhwyster BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth yn 2013. Parhaodd i fyw yn Abertawe am nifer o flynyddoedd cyn symud i Ben-y-bont ar Ogwr yn 2016.

Cefndir proffesiynol

Mae Tom – sy'n siaradwr Cymraeg ail iaith – wedi cael amrywiaeth o rolau yn ystod ei fywyd proffesiynol. I ddechrau, daeth yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg. Aeth yn ei flaen wedyn i gwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl graddio, aeth i weithio fel Swyddog Cyswllt Cymunedol yn ei ranbarth, sef Gorllewin De Cymru, cyn trefnu ymgyrchoedd a gweithio gyda gwirfoddolwyr yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Cyn cael ei ethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, roedd Tom yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa ar gyfer yr Aelod Seneddol lleol.

Hanes gwleidyddol

Cyn cael ei ethol i'r Senedd yn 2021, cafodd Tom ei ethol yn ward Brackla i wasanaethu ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2017, lle bu’n arwain grŵp y Ceidwadwyr ar y cyngor. At hynny, bu’n cadeirio Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan wneud gwaith goruchwylio a gwaith craffu ar gyllideb addysg y cyngor, sy’n gyllideb gwerth miliynau o bunnoedd. Ar ôl cael ei ethol i’r Senedd, cafodd Tom ei benodi’n llefarydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwylliant, twristiaeth a chwaraeon, ac yn rhinwedd y rôl honno, maen parhau i hyrwyddo busnesau a sefydliadau lleol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

;

Digwyddiadau calendr: Tom Giffard AS