Hanes
personol
Ganwyd Vaughan Gething yn Zambia a chafodd ei fagu yn Dorset. Cafodd ei
addysg ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, ac erbyn hyn mae’n byw yn ei
etholaeth gyda’i wraig a’i fab.
Cefndir
proffesiynol
Roedd Vaughan yn gyfreithiwr ac yn gynbartner yn Thompsons. Mae’n aelod o’r
undebau GMB ac Unite, a Vaughan oedd Llywydd ieuengaf erioed y TUC yng Nghymru.
Mae wedi gwasanaethu yn y gorffennol fel cynghorydd sir a llywodraethwr ysgol.
Mae hefyd wedi bod yn wirfoddolwr gwasanaethau cymunedol – yn rhoi cymorth a
gofal i fyfyriwr a oedd yn dioddef o barlys yr ymennydd. Mae hefyd yn
gyn-Lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.
Hanes
gwleidyddol
Rhwng 1999 a 2001, gweithiodd
Vaughan fel ymchwilydd i Val Feld a Lorraine Barrett, cyn-Aelodau’r Cynulliad.
Rhwng 1999 a 2001, Vaughan oedd cadeirydd Hawl i Bleidleisio - prosiect
trawsbleidiol i annog cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gyfrannu
mwy ym mywyd cyhoeddus Cymru.