Pobl y Senedd

Adam Price AS

Adam Price AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Comisiynydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer ailgyflwyno Gwasanaeth Lles a Rhyddhau yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glangwili?

Wedi'i gyflwyno ar 07/07/2020

A wnaiff y Gweinidog egluro amserlen ar gyfer pryd y caniateir mynd i weld tai lle mae pobl yn byw ynddynt?

Wedi'i gyflwyno ar 06/07/2020

Yn sgîl yr ymateb i WQ80416, a wnaiff y Gweinidog ddarparu'r rhestr lawn o gwestiynau ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r grŵp cynghori technegol eu hateb, gan gynnwys y cwesti...

Wedi'i gyflwyno ar 24/06/2020

A wnaiff y Prif Weinidog egluro'r rhesymeg dros y posibilrwydd o ganiatáu i briodasau gael eu cynnal mewn mannau addoli, ond nid i ganiatáu iddynt gael eu cynnal mewn swyddfeydd cofrestru?

Wedi'i gyflwyno ar 23/06/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu profion Covid-19 i staff cartrefi gofal ac i'r rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty?

Wedi'i gyflwyno ar 15/06/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi staff cartrefi gofal i alluogi preswylwyr i gyfathrebu â theuluoedd a pherthnasau yn ystod y pandemig Covid-19?

Wedi'i gyflwyno ar 15/06/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Adam Price AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright i Adam, i astudio yn y brifysgol o fri rhyngwladol, Harvard. Astudiodd ar gyfer gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus yno. Aeth yn ei flaen i ddod yn Gymrawd yn y Ganolfan Datblygu Rhyngwladol yn Ysgol Lywodraeth John F. Kennedy yn Harvard.

Yn 2014 enillodd y Fedal Efydd yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd am ei raglen ddogfen ar Streic y Glowyr ym 1984-1985. Yn 2015 cafodd ei gyfres pedair rhan ddwy Wobr BAFTA Cymru.

Hanes personol

Cafodd ei eni yng Nghaerfyrddin i deulu glöwr a chafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac yna ym Mhrifysgol Caerdydd lle y graddiodd gyda BSc (Econ).

Cefndir proffesiynol

Mae Adam yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr i Newidiem, ymgynghoriaeth polisi ac economeg sy'n gweithredu ledled y DU, ac yn gyn-Gyfarwyddwr Gweithredol yr asiantaeth datblygiad economaidd a newid diwylliannol yng Nghymru, Menter a Busnes.

Cyn cael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, roedd Adam yn gweithio fel Uwch Reolwr Rhaglen ar gyfer Sefydliad Arloesedd y DU.

Hanes gwleidyddol

Mae Adam yn gyn-Aelod Seneddol, ac roedd yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010.

Roedd yn frwd ei wrthwynebiad i Ryfel Irac a rôl Tony Blair yn y rhyfel, ac arweiniodd ymgais, ochr yn ochr ag aelodau eraill o Blaid Cymru a'r SNP, i uchelgyhuddo Tony Blair. Cafodd Adam ei daflu allan o siambr Tŷ'r Cyffredin ar 17 Mawrth 2005 am wrthod tynnu'n ôl ei ddatganiad yn cyhuddo Tony Blair o fod wedi camarwain y Senedd.

Cychwynnodd Adam ddadl dair awr ar ymchwiliad i Ryfel Irac, gan arwain at sefydlu Ymchwiliad Chilcot.

Yn ystod ei amser yn Nhŷ'r Cyffredin gwasanaethodd ar y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, a bu'n llefarydd Plaid Cymru ar gyfer y Trysorlys, Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Adam oedd yr unig Aelod Seneddol o Gymru i gadw cefnogaeth y cyhoedd yn arolwg ar-lein y Western Mail ynglŷn ag Aelodau Seneddol yn ystod y sgandal treuliau yn 2009. Cafodd ei enwi yn Gyfathrebwr y Flwyddyn yng ngwobrau rhaglen AM.PM y BBC yn 2007, ac enillodd wobr Gwleidydd Ymgyrchu y Flwyddyn yn 2005 yng Ngwobrau Gwleidyddol Cymru ITV.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Adam Price AS