Archwilydd Cyffredinol Cymru yw Adrian Crompton. Mae ei
swydd yn annibynnol ar y llywodraeth. Nid yw’n was sifil a chaiff ei benodi gan
y Frenhines.
Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol
statudol y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ei
fod yn archwilio cyfrifon cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, yr
heddlu, yr awdurdodau tân ac achub, y parciau cenedlaethol a’r cynghorau
cymuned, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a noddir ganddi ac
sy’n gysylltiedig â hi, Comisiwn y Senedd a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae rôl yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys archwilio
sut y mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys
sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Archwilydd
Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiadau ar y gwaith hwnnw, a chaiff rhai ohonynt eu
hystyried gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru. Mae hefyd yn rhoi
adroddiad blynyddol ar sut mae awdurdodau lleol unigol yn cynllunio ar gyfer
gwella.
Sefydlwyd Swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2005 ac
mae’r deiliad presennol, Adrian Crompton , wedi bod yn y swydd ers 21
Gorffennaf 2018. Gall unigolyn ddal y swydd hon am uchafswm o wyth mlynedd.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn mynd i gyfarfodydd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn eistedd nesaf at y Cadeirydd yn ystod
cyfarfodydd y Pwyllgor. Mae’r trefniant hwn yn pwysleisio rôl yr Archwilydd
Cyffredinol fel y prif gynghorydd i’r Pwyllgor, ac mae’n egluro pwysigrwydd y
rôl honno. Mae hefyd yn helpu i hwyluso’r cyfleoedd i’r Archwilydd Cyffredinol
wneud cyfraniadau priodol yn rhwyddach yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor.