Pobl y Senedd

Dai Lloyd AS

Dai Lloyd AS

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Gorllewin Abertawe

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o wasanaethau adsefydlu yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau COVID-19?

Wedi'i gyflwyno ar 28/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yng Ngorllewin De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 14/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi a chyflwyno'r brechlyn COVID-19 yng Ngorllewin De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 07/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllid sydd ar gael i ddarparu metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin?

Wedi'i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella ysgolion yng Ngorllewin De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch sefyllfa ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe?

Wedi'i gyflwyno ar 18/11/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Dai Lloyd AS

Bywgraffiad

Roedd Dai Lloyd yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau gwleidyddol Dai Lloyd yn naturiol ym meysydd iechyd a llywodraeth leol. Dai yw Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg y Login Fach. Mae hefyd yn bregethwr lleyg, ac yn pregethu'n rheolaidd mewn capeli ledled Prydain.

Hanes personol

Ganed Dai Lloyd ym 1956 yn Nhywyn, Gwynedd. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan, ac aeth ymlaen i astudio yn y Coleg Meddygaeth yng Nghaerdydd.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio, daeth Dai Lloyd yn feddyg teulu yn Abertawe. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, roedd yn Gynghorydd Sir yn Ninas a Sir Abertawe.

 

Hanes gwleidyddol

Roedd Dai Lloyd yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru rhwng 1999 a 2011. Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, gwasanaethodd Dai fel Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Leol ac Adfywio.

Cafodd ei ailethol i’r Cynulliad yn 2016.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 07/05/1999 - 30/04/2003
  2. 02/05/2003 - 02/05/2007
  3. 04/05/2007 - 31/03/2011
  4. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Dai Lloyd AS