Pobl y Senedd

Delyth Jewell AS

Delyth Jewell AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol yr undeb?

Wedi'i gyflwyno ar 18/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus?

Wedi'i gyflwyno ar 11/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Nwyrain De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 25/11/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o werth am arian trosi'r A465 o Ddowlais Top i Hirwaun yn sgil amcanestyniadau bod y gost wedi cynyddu'n sylweddol?

Wedi'i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod etholwyr Cymru yn wybodus am faterion gwleidyddol cyn etholiad y Senedd yn 2021?

Wedi'i gyflwyno ar 29/10/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Bil Marchnad Fewnol y DU ar y Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin?

Wedi'i gyflwyno ar 17/09/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Delyth Jewell AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed Delyth Jewell yng Nghaerffili, tyfodd i fyny yn Ystrad Mynach, ac aeth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ym Margoed, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio o’r Brifysgol, gweithiodd Delyth fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau i Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan o dan arweinyddiaeth Elfyn Llwyd AS.  Yn 2014, enillodd Wobr Ymchwilydd y Flwyddyn am ei gwaith yn braenaru’r tir ar gyfer deddfwriaeth ar  stelcio a thrais domestig.  Yn ddiweddarach, gweithiodd i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.

Hanes gwleidyddol

Yn 2019, tyngodd Delyth lw fel Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis, ac fe’i henwyd yn llefarydd ei phlaid ar Brexit a Materion Allanol.  Yn 2021, ail-etholwyd Delyth yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, ac mae wedi cael ei phenodi yn llefarydd ei phlaid ar newid hinsawdd, trafnidiaeth ac ynni.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/02/2019 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Delyth Jewell AS