Pobl y Senedd

Hannah Blythyn AS

Hannah Blythyn AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Delyn

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Profi'r cyhoeddlilsh 13-07-2021

Wedi'i gyflwyno ar 13/07/2021

Profi 6ed Gwelliant y Senedd

I'w drafod ar 12/04/2021

TEST

I'w drafod ar 12/11/2020

TEST

I'w drafod ar 12/11/2020

I'w drafod ar 03/11/2020

Yn bendant. Rwy'n gwybod bod y banc cymunedol ym Mwcle yn fater y mae'r Aelod wedi bod yn ymgyrchu'n frwd arno ers nifer o fisoedd bellach. Gallwn weld yr effaith y byddai’n ei chael nid...

Y Cyfarfod Llawn | 24/06/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Hannah Blythyn AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae blaenoriaethau gwleidyddol Hannah yn cynnwys gwthio i greu rhagor o swyddi da, cyfleoedd da a buddsoddiad o’r tu allan i ogledd-ddwyrain Cymru, ochr yn ochr â sicrhau bod ein cymunedau lleol a’n gwasanaethau yn ffynnu.

Mae diddordebau polisi penodol gan Hannah mewn: cyflogaeth; yr economi; seilwaith; cydraddoldebau; addysg; pobl ifanc; tai; gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.

Hanes personol

Mae Hannah yn ymfalchïo ei bod yn dod o’r Gogledd ac o Gei Connah. Aeth hi i ysgol Sant Richard Gwyn yn y Fflint a bellach mae’n byw yn yr Wyddgrug. Ar ôl gadael yr ysgol, astudiodd Hannah ym Mhrifysgol De Montfort yng Nghaerlŷr ac ers hynny mae wedi gweithio ledled Sir y Fflint, Cymru a’r DU.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Mai 2016, roedd Hannah yn gweithio i undeb llafur Unite am bron i ddegawd. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu’n cyflawni gwaith o ran arweiniad polisi a gwaith gwleidyddol ar gyfer yr Undeb yng Nghymru, gan arwain ar nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus gan gynnwys: gweithredu ar gosbrestru; gwell cyfiawnder i ddioddefwyr clefydau cysylltiedig ag asbestos; gwarchodaeth i weithwyr gwledig yng Nghymru; a chyflog byw i weithwyr y GIG yng Nghymru.

Yn y gorffennol, bu Hannah yn gweithio i elusen fach, ac mae hefyd wedi gweithio i Aelod Seneddol yn Sir y Fflint ac yn y sector lletygarwch yn y sir.

Hanes gwleidyddol

Mae Hannah wedi bod yn weithgar yn y mudiad llafur ac ym maes gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, ac mae’n edrych ymlaen at ddatblygu’r cyfraniad hwn fel Aelod Cynulliad. Mae hi’n gyn-gadeirydd y gangen LGBT Llafur ac roedd yn weithgar yn yr ymgyrch am briodasau cyfartal.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Hannah Blythyn AS