Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Fel Aelod o’r Senedd, mae
diddordebau Hefin David ym maes datblygu a thwf cwmnïau bach, cyflogaeth a
chyflogadwyedd, mynediad i addysg bellach ac uwch i'r rheini ag anghenion
ychwanegol a datblygu cymunedau'r Cymoedd. Mae ganddo ddiddordeb mewn tai, gan
gynnwys diwygio rhydd-ddaliadol/prydlesol, a diwygio'r system gynllunio. At
hynny, mae ganddo ddiddordeb yn effeithiau hirdymor y Coronafeirws (COVID hir)
ar unigolion. Mae gan Hefin radd BScEcon mewn Economeg a Gwleidyddiaeth a gradd
MScEcon mewn Polisi Ewropeaidd, y naill a’r llall o Brifysgol Caerdydd. Mae
ganddo hefyd Dystysgrif Addysg i Raddedigion o Brifysgol De Cymru, a
Doethuriaeth o Brifysgol Sir Gaerloyw. Mae Hefin yn un o gymrodorion yr Higher
Education Academy (FHEA) ac yn aelod cyswllt academaidd o'r Sefydliad
Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Hanes
personol
Cafodd Hefin ei eni a'i fagu yn
etholaeth Caerffili, lle y mae'n byw hyd heddiw. Mae'n llywodraethwr dwy ysgol
ac yn ymddiriedolwr Canolfan Glowyr Caerffili er y Gymuned.
Cefndir
proffesiynol
Cyn cael ei ethol i’r Senedd, roedd
Hefin yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd yn dysgu
Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymarfer Proffesiynol i israddedigion a graddedigion,
gan ganolbwyntio ar gyflogadwyedd. O ran gwaith ymchwil, roedd Hefin yn
ymddiddori mewn cyflogadwyedd a thwf mewn busnesau bach ac roedd ei
ddoethuriaeth yn ystyried y penderfyniadau cynnar o ran cyflogaeth a wneir gan
unigolion sy'n berchen ar fusnesau bach ac yn eu rheoli. Mae ganddo brofiad o weithio ac addysgu yn yr
Almaen, gwlad Groeg, India a Tsieina.
Hanes
gwleidyddol
Cafodd Hefin ei ethol i Gyngor
Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn isetholiad ym mis Mawrth 2007 a bu’n
gwasanaethu’n barhaus tan iddo roi’r gorau i’r rôl yn etholiadau llywodraeth
leol 2017. Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau rhwng 2012 a
2016, a bu'r Pwyllgor yn trafod nifer o faterion o ddiddordeb i'r cyhoedd yn
ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys lliniaru effeithiau mwyaf difrifol y dreth
ystafell wely a lleihau'r defnydd o lety gwely a brecwast i gartrefu pobl mewn
argyfwng.